CPD Y Felinheli

tymor newydd yn yr “Ardal Gogledd Orllewin”

gan Gwilym John

Gêm Cwpan Cymru oedd gêm gyntaf y tymor, a gyda chyfran fawr o’r sgwad yn Iwerddon ar benwythnos “Stag” un o’r hoelion wyth, Ifan Emyr, roedd tîm eithaf amhrofiadol yn gorfod gwynebu Y Maesglas (Greenfield) yn rownd rhagbrofol Cwpan Cymru. Ofnai pawb y buasai yn gyflafan, a dyna ddigwyddodd, ond ddim fel oedd pawb yn ofni! Felin 6 Maesglas 0 ! Yr hogiau ifanc, efo un neu ddau hen ben, yn disgleirio.

Ers cael y sgwad llawn yn ol, mae hi wedi bod yn gychwyn “go lew” i’r tymor. Wedi chwarae pedair yng Nghynghrair Ardal Lock Stock Gogledd Orllewin, colli dwy (Conwy a Phorthmadog), ennill un 2-1 yn erbyn y newydd-ddyfodiaid Porthaethwy, a gêm gyfartal 2-2 ym Mhwllheli y Sadwrn ddiwethaf.

Roedd Pwllheli 2-0 ar y blaen ar ol 5 munud, ond dangosodd Felin galon, yn brwydro yn galed ac yn chwarae peldroed deniadaol. Aled “Pob” Griffith yn sgorio ddiwedd yr hanner cyntaf, a chwaraewr y gêm, Cal MacDonald yn unioni y sgor 5 munud i fewn i’r ail hanner. Dwy gôl wych iawn (gweler uchod).

Yng nghanol y gemau cynghrair, collodd Felin 2-3 i Lanuwchllyn yng nghystadleuaeth Tlws Cymru.

Dweud eich dweud