Cyhoeddi rhaglen Gŵyl y Felin

Mae’r 9 diwrnod o weithgareddau wedi eu cyhoeddi

Gŵyl y Felinheli
gan Gŵyl y Felinheli
Untitled-design-2024-23T151808

Rhaglen Gŵyl y Felin 2024

Mae rhaglen Gŵyl y Felinheli ar gyfer 2024 wedi’i chyhoeddi.

Mae’r ŵyl 9 diwrnod yn cynnwys y gweithgareddau arferol fel bingo, cwis a’r ras 10K, ond mae ’na ychwanegiadau newydd sbon i’r rhaglen ‘leni. Ymhlith y gweithgareddau newydd mae noson gomedi, disgo distaw, a noson blasu coctels!

Hefyd, mae’r trefnwyr yn addo bod yr Ŵyl ‘leni’n cynnig mwy o weithgareddau nag erioed i blant a phobl ifanc, yn cynnwys diwrnod o hwyl yn arbennig i’r plant ar y dydd Sadwrn cyntaf, a ras yr ifanc ar y nos Lun.

Mae’r rhaglen wedi’i dosbarthu i dai’r pentra i gyd, ond mae copi digidol ar gael ar-lein yn fan hyn hefyd.

Mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen yn arw at eich croesawu i’r marcî eto ‘leni!