Mae criw brwd ac eiddgar o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru wedi gorffen sesiynau Croeso Cymraeg efo Ann Bierd.
Roedd nifer ohonynt wedi mwynhau ac rŵan yn medru cynnal sgwrs fer yn Gymraeg.
Mae hyn wedi bod yn ffordd o adeiladu perthynas wych efo pobl lled newydd sydd efallai wedi cael trafferth neu dim mynediad at yr iaith o’r blaen. Mae nifer wedi cael mwy o hyder a brawddegau i ddweud yn Gymraeg. Rol y seisynau oedd i rhoi fwy o wybodaeth am ddiwylliant yr ardal hefyd, Cymru, Gwynedd, a Bangor.
Fel y gwelwch mae modd cael llawer o hwyl tra’n dysgu am ddiwylliant a iaith Cymru ar ol 10 sesiwn a mae adborth wych wedi do yn ôl.
Gobeithio hyn fydd un cam ar y berthynas rhwng y gymdeithas a Menter Iaith Bangor.
Y gamp nesaf, yw i drefnu taith i Nant Gwrtheyrn i fedru dangos y Ganolfan Dysgu’r Gymraeg iddynt, i rannu’r hanes, diwylliant ac ysbrydoli i ymrwymo i gwrs… gobeithio.
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu yn rhannol trwy
un o raglenni Menter Môn, sef Grymuso Gwynedd, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU
drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau
Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA)