O Chelsea i Fangor!

Mae gardd gyfan wedi’i chludo o Chelsea i Dreborth

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian

Mae gardd a ddaeth i frig categori yn Sioe Flodau Chelsea bellach ar gael i’w gweld yng ngerddi Treborth ym Mangor.


Mae’r ardd siap map Cymru yn dathlu gwaith Maint Cymru, elusen sy’n gwarchod coedwigoedd glaw rhag datgoedwigo. Ynddi mae 313 o rywogaethau o blanhigion, nifer ohonynt yn frodorol i ogledd Cymru, ac fe ddaw’r cerrig a ddefnyddiwyd i lunio’r gardd yn Chelsea o Chwarel Aber ym Moelfre.

Dan Bristow oedd y dylunydd, ac mewn agoriad swyddogol ddydd Gwener, bwriodd oleuni ar hanes yr ardd. Gwyliwch y clip yma.