Cau bwyty’r Garden wedi 40 mlynedd.

Cau bwyty’r “Garden”, un o sefydliadau Cantonaidd mwyaf adnabyddus Cymru.

gan Howard Huws
Llun-Andrew-ac-Alice-Lui

Andrew ac Alice Lui

Bydd bwyty’r “Garden” ym mhen uchaf Stryd Fawr Bangor yn cau rywbryd yn Ionawr 2025 wedi 40 mlynedd o wasanaethu pobl ardal y ddinas ac ymhell y tu hwnt.

Sefydlwyd y bwyty gan Andrew ac Alice Lui wedi i Andrew raddio o Brifysgol Newcastle. Magwyd Alice ym Mhwllheli, ac wedi cyfnod yn gweithio yn y maes arlwyo ym Manceinion a Hong Kong, dychwelodd i Fangor i agor eu bwyty bach ym 1985 lle bu’r “Gwynedd Hotel” gynt. Arbenigai’r bwyty mewn prydau bwyd yn null Canton, a chymaint fu’r llwyddiant (a’r gwaith caled) fel yr ehangwyd y bwyty yn ddiweddarach.

Mae cannoedd ohonom yn cofio arlwy ardderchog ac awyrgylch cartrefol y “Garden”, sydd wedi llwyddo i ddarparu, dro ar ôl tro, brydau blasus i’w rhyfeddu am bris rhesymol dros ben: cryn gamp. Bu’n fan creu a chynnal cyfeillgarwch rhwng pobl wrth inni wneud y peth sylfaenol ddynol hwnnw, cyd-fwyta â’n gilydd mewn lle dymunol: dim rhyfedd fod gennym y fath atgofion melys am y lle a’r croeso yno. Meddai Andrew: “Cred fy ngwraig a finnau bod tair egwyddor sylfaenol yn hanfodol i lwyddiant. Y cyntaf yw bwyd da; yr ail yw gwasanaeth da, a’r trydydd yw awyrgylch da.”

Cyflwynai Alice ac yntau gyrsiau bwyd a diwylliant Canton i brifysgolion Bangor ac Abertawe, ac ysgolion cynradd ac uwchradd yr ardal. Agorasant y siop bwydydd dwyreiniol gyntaf ym Mangor, a  gwesty yn ychwanegol. Llwyddasant i fagu nid llai na chwe merch (Sandra, Pamela, Debra, Monica, Olivia a Portia), ac atgof cynharaf y genod yw bod ynghlwm wrth gefn mam wrth iddi gadw trefn yn ddeheuig ar dri woc yng nghegin y bwyty. Ymhen amser daethnant yn is-gogyddion, yn deisenwragedd, yn weinyddesau ac yn rheolwyr yno, gan ddysgu gwerth gwaith caled a sut i ddygymod â heriau’r diwydiant arlwyo, ond nid ar draul eu haddysg na’u diddordebau amser hamdden fel cerddoriaeth, dawnsio a theithio. Graddio pob un o’r chwech o brifysgolion, ac y mae tair ohonynt yn gweithio dramor. Un yn Hong Kong, un arall yn Abw Dhabi, ac un arall yn Nghanada. Maent wedi llwyddo yn eu meysydd, gan ddod yn athrawes, yn radiograffydd, yn therapydd, yn ddeietegydd ac yn beilot tan hyfforddiant.

Mae Andrew ac Alice wedi cyfrannu’n hael at achosion elusennol lleol, gan gynnwys Uned Gofal Babanod Arbenigol Ysbyty Gwynedd, Tŷ Gobaith, Hosbis Dewi Sant, Barnardo, Ambiwlans Sant Ioan, y Gwasanaeth Achub Mynydd a’r sefydliad Starlight, ymysg eraill.

Bydd colled fawr ar ôl y bwyty, ond y newyddion da yw y bydd gwesty Garden yn parhau ar agor yn ymyl yr orsaf rheilffordd ac o fewn cyrraedd cyfleus i’r brifysgol. Wrth ddymuno ymddeoliad dedwydd i Andrew ac Alice, da cofio y bydd y teulu yn parhau i ddarparu inni wasanaeth croeso.

Dweud eich dweud