Bwrw bol ym Maesgeirchen

Mae’r sesiwn yn cael ei gynnal ar 10 Medi

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
457645826_1921268371711658

Taflen a ddosbarthwyd ym Maesgeirchen yn ddiweddar

Cyfle i etholwyr gwrdd â’u cynrychiolwyr gwleidyddol i drafod materion a phryderon lleol yw cymhorthfa, a’r mis nesaf bydd Siân Gwenllian AS yn cynnal sesiwn ym Maesgeirchen.

Mae Siân yn cynrychioli etholaeth Arfon, sy’n cynnwys Bangor yn Senedd Cymru. Mae trigolion y ddinas yn cael eu hannog i ddod i drafod materion sy’n berthnasol i Senedd Cymru, gan gynnwys iechyd, tai, addysg, a’r amgylchedd.

Dylai’r sawl sy’n dymuno mynychu’r gymhorthfa gysylltu â’r swyddfa i drefnu apwyntiad. Gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at sian.gwenllian@senedd.cymru neu drwy ffonio 01286 672076.

Dweud eich dweud