Bidio yr Ocsiwn Fawr ar agor!

Mae modd bidio o flaen llawn

Ar Goedd
gan Ar Goedd
Untitled-design-2024-03T121908

Bydd Eisteddfod y Felinheli yn cael ei chynnal am y tro cyntaf ers dros hanner canrif ym mis Chwefror, ac mae’r pwyllgor wedi trefnu Ocsiwn Fawr i godi pres at yr achos.

Mae’r ocsiwn yn cael ei chynnal yn y Fic ar 18 Hydref am 7PM, ond os na fedrwch chi fod yno, mae’n bosibl rhoi bid ar-lein.

Mae ’na restr lawn o’r eitemau isod, ond nodwch hefyd fod ’na ddwy eitem gyfrinachol, i’w datgelu’n agoach at yr amser!

Ewch i’ch pocedi, a diolch am bob cefnogaeth!

  • Tocyn mynediad i deulu i Bortmeirion (2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn)
  • Tocyn teulu Rheilffordd Llyn Padarn (2 oedolyn, 2 blentyn)
  • Tocyn teulu Rheilffordd Eryri ar gyfer taith o Gaernarfon – ‘Y Cwellyn’, ‘Fforiwr Gelert’ neu ‘Seren Eryri’ (2 oedolyn, 2 blentyn)
  • Tocyn oedolyn a phlentyn i gêm Man Utd (mae’n rhaid i’r prynwr fod yn aelod)
  • Ysgrifennu 2 ewyllys gan Wyn Trefor
  • Sesiwn Reformer Pilates i 2 gyda Protec Physio
  • 2 noson yn Hafan y Môr 
  • Pecyn o ddillad gan Mirsi
  • Sesiwn ‘Sort your life out’ gan Nia Medi
  • Gwneud eich gwinedd gan Roxanne
  • Taith o set Rownd a Rownd ym Mhorthaethwy
  • Tusw o flodau o Hawthorn Yard, Porthaethwy
  • Pecyn o lyfrau Marlyn Samuel wedi’u harwyddo
  • Gwers Ioga 1 i 1 gyda Morfudd Hughes
  • Print o waith Catrin Williams
  • Print o waith Sarah Carvel
  • Sesiwn Meddylgarwch 1 i 1 gyda Bethan Roberts
  • Gwers Ioga 1 i 1 gyda Gwen Lasarus
  • Gwers telyn gan Siân James
  • Casgliad o nofelau Rhian Cadwaladr
  • Gwers piano gan Lynn
  • Print o waith Josie Russell
  • Sesiwn gofalu am blanhigion gyda Naomi Saunders
  •  Llun gwreiddiol Susan Gathercole
  •  Sesiwn tynnu lluniau i deulu gan Kristina Banholzer
  • Bwndel Bwyd 
  • Hamper Pamper
  • Eitem arbennig cyfrinachol (1)
  • Eitem arbennig cyfrinachol (2)

Dweud eich dweud