“C E L A V I – remember that name” – Nels Hylton, ‘Future ‘Alternative’ ar BBC Radio 1
Yn dilyn rhyddhau eu sengl ‘IODINE’ yn ddiweddar, mae C E L A V I “y peth mwyaf swnllyd i ddod o Ogledd Cymru” wedi rhyddhau eu EP newydd ‘ANIMA a’u sengl newydd ‘l o w e r c a s e’.
C E L A V I ydi Sarah a Gwion. Daw’r ddeuawd ffyrnig o Fangor, Gogledd Cymru, gyda’u sŵn anthemig ac unigryw nu-metal, sy’n chwalu’r ffiniau gyda’u ddylanwadau fetal, goth, emo, diwydiannol, electro a roc.
Wrth ddisgrifio ‘l o w e r c a s e’, meddai Sarah: ‘Mae’r gân yn anrhefn danllyd, sonig, mae hi’n bangar, fel slap ar draws eich gwyneb! Mae’n anthem ddiwydiannol nu-metal arloesol, sy’n grymuso, yn uchel ac yn onest i ni misfits”.
Ychwanega Gwion: “Mae’n gân swnllyd, gydag egni ’main character’, sy’n anthem i ni sy’n wynebu heriau ac sy’n gorfod gweithio’n galed ar gyfer ein nodau”.
Wedi’i danio â riffiau creulon adnabyddus C E L A V I a’u anhrefn melodig, cynhyrchwyd ‘l o w e r c a s e’ gan y cynhyrchydd a enwebwyd gan Grammy, Romesh Dodangoda (Bring Me The Horizon, Motörhead, Holding Absence), a fideo cerddoriaeth ategol gan Loki Films (Slipknot, Sleep Token, Limp Bizkit, Lorna Shore), wedi ei gefnogi gan Help Musicians.
Mae ‘l o w e r c a s e’ oddi ar EP newydd grymusol, ffyrnig a chathartig ‘ANIMA’ a gafodd ei ryddhau ar Noson Galan Gaeaf, 31 Hydref 2024. Fel yr enw Lladin am ‘yr enaid’, mae ‘ANIMA’ yn ymosodol, swnllyd ac yn gasgliad gonest o nu-goth, nu-emo, ac anthemau glitched egnïol, gyda dylanwadau metal craidd, diwydiannol, anime a drum’n’bass.
Mae C E L A V I wedi cael ei gefnogi gan ‘BBC Introducing Rock’ gydag Alyx Holcombe ar BBC Radio 1 a ‘Future Alternative’ gyda Nels Hylton ar BBC Radio 1.
Mae’r band wedi perfformio yn y lleoliadau eiconig yn Llundain Cart + Horses (man geni Iron Maiden) + REPTILE Club yn 229. Mae CELAVI hefyd wedi sicrhau slot yn cefnogi’r band metal amgen o’r DU, Defences.
Oddi ar eu EP ‘ANIMA’, gwyliwch y fideo ar gyfer ‘IODINE’ yma. (Gan Loki Films – Slipknot, Sleep Token, Limp Bizkit).
Bydd y fideo cerddoriaeth ar gyfer y trac ffocws ‘l o w e r c a s e’ yn cael ei rhyddhau mis Tachwedd! Gwyliwch y gofod!
Dyma sŵn nu-emo. Ydych chi’n barod am rywbeth gwahanol?
GIGS MIS TACHWEDD
1 Tachwedd 2024 – Percy’s – Whitchurch
2 Tachwedd 2024 – Tafarn Y Skerries – Bangor (Lansiad ANIMA)
9 Tachwedd 2024 – Metal Soar, Canolfan Soar, Merthyr Tudful
15 Tachwedd 2024 – Elysium – Abertawe
16 Tachwedd 2024 – The Foundry – Aberhonddu
Am ragor o wybodaeth am gigs: www.wearecelavi.com