Band nu-metal C E L A V I o Fangor yn ôl gyda’u hanthem ffyrnig, cathartig a galed newydd!

C E L A V I o Fangor newydd ryddhau eu hanthem newydd!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
CELAVI - IODINELOU SINNER PHOTOGRAPHY + GWION GRIFFITHS

Yn falch o fod y band gyntaf nu-metal dwyieithog yng Nghymru, mae C E L A V I yn ôl efo’u hanthem nu-metal newydd ‘IODINE’.

C E L A V I ydi Sarah a Gwion. Daw’r ddeuawd ffyrnig o Fangor, Gogledd Cymru, gyda’u sŵn anthemig ac unigryw nu-metal, sy’n chwalu’r ffiniau gyda’u ddylanwadau fetal, goth, emo, diwydiannol, electro a roc.

Wastad yn canolbwyntio ar eu siwrne eu hunain, mae C E L A V I wrth eu boddau gyda’u sŵn blaengar, ffres a ffrwydrol nu-metal, wedi ei gefnogi gan ‘BBC Introducing Rock’ gydag Alyx Holcombe ar BBC Radio 1 a ‘Future Alternative’ gyda Nels Hylton ar BBC Radio 1.

Chaotic. Gonest. Uchel. Mae ‘IODINE’ yn rhyddhau dicter a rhwystredigaeth y prif leisydd Sarah wedi diagnosis diweddar o glefyd awto-imiwn. Mae’r riffs ffyrnig, y lleisiau meddwol a’r drymiau gwyllt yn dwyn i gof y panig, yr ofn a’r ansicrwydd a brofodd Sarah wrth frwydro yn erbyn ei salwch. Mae ‘IODINE’ yn gyfosodiad cathartig sydd wrth galon sŵn C E L A V I.

Dywedodd Sarah “Mae ‘IODINE’ yn gân fregus ac mae’n mynegi’r ofn yr es i drwyddo. Mae fy nghyflwr yn cael ei fonitro a dwi’n teimlo’n llawer gwell, ond ar y dechrau roeddwn yn teimlo’n ofnus ac yn rhwystredig bod fy nghorff fy hun yn troi yn fy erbyn. Mae’r gân yn gatharsis i mi”.

Cynhyrchwyd ‘IODINE’ gan y cynhyrchydd a enwebwyd am grammy, Romesh Dodangoda (Bring Me The Horizon, Nova Twins, Motörhead, Holding Absence, Sylosis). Bydd y fideo ategol yn cael ei ryddhau ym mis Hydref, wedi’i gyfarwyddo gan Shaun Hudson (Slipknot, Sleep Token, Limp Bizkit, Lorna Shore). Bydd EP newydd hir disgwyliedig C E L A V I (a gynhyrchwyd gan Romesh Dodangoda, gyda chefnogaeth Help Musicians) yn cael ei ryddhau ym mis Hydref 2024.

Cafodd ‘IODINE’ ei ryddhau ddydd Gwener, 13 Medi 2024 gyda C E L A V I yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn Llundain yn y lleoliad eiconig Cart + Horses, man geni Iron Maiden! Mae ‘IODINE’ wedi cael ei gefnogi yn barod gan BBC Introducing in Wales efo Adam Walton ar BBC Radio Wales a Miriain Iwerydd ar BBC Radio Cymru.

Gallwch wrando ar ‘IODINE’ yma.

Mae C E L A V I newydd gyhoeddi eu bod yn cefnogi’r band metal adnabyddus Defences efo RXPTRS ac Atlas Theory yn Fuel Rock Club, Caerdydd ar ddydd Gŵyl Dewi.

Mae’r nu-metallers diwydiannol Cymreig yn arwain y ffordd gyda’u sŵn unigryw enfawr, ac yn ffrwydro’r sin gerddoriaeth Gymreig a’r DU gyda’u perfformiadau egnïol a theilwng o circle-pit, wedi’u harfogi â’u band byw llawn bwerus.

Yn ogystal, mae BBC Introducing in Wales, BBC 6 Music, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2 wedi cefnogi CELAVI, gyda BBC Radio Cymru yn disgrifio’r band fel “y peth mwyaf swnllyd i ddod o Ogledd Cymru!”

Gyda miliynau o ffrydiau yn rhyngwladol a chydnabyddiaeth gan rai o’r rhestrau chwarae golygyddol mwyaf eu maes gan gynnwys cefnogaeth barhaus gan restrau chwarae golygyddol ‘Breakthrough Rock’ a ‘Best New Bands’ Amazon Music, mae CELAVI yn arwain y ffordd gyda’u sŵn ffyrnig, awthentig ac arloesol!

Am ragor o wybodaeth: www.wearecelavi.com

Dweud eich dweud