Band nu-metal C E L A V I o Fangor yn barod i berfformio’n ddwyieithog yn man geni Iron Maiden!

Bydd y band yn perfformio yn Llundain am y tro gyntaf!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
CELAVI

Bydd y band nu-metal | metal | goth | nu-emo C E L A V I o Fangor yn perfformio yn y lleoliad eiconig Cart + Horses yn Llundain, cartref i’r band metal trwm Iron Maiden.

Bydd Sarah a Gwion, y nu-metallers diwydiannol o Fangor yn perfformio yn Llundain ar ddydd Gwener, 13ed o Fedi 2024, ac yn edrych ‘mlaen i barhau gyda’u perfformiadau dwyieithog egnïol a theilwng o circle-pit, wedi’u harfogi â’u band byw llawn bwerus, Connor a Dylan.

Wastad yn canolbwyntio ar eu siwrne eu hunain, mae C E L A V I wrth eu boddau gyda’u sŵn blaengar, ffres a ffrwydrol nu-metal, wedi ei gefnogi gan ‘BBC Introducing Rock’ gydag Alyx Holcombe ar BBC Radio 1 a ‘Future Alternative’ gyda Nels Hylton ar BBC Radio 1. Mae C E L A V I wedi cael eu cefnogi 5 gwaith gan BBC Radio 1, gan gynnwys 2 o’u traciau yn y Gymraeg – ‘NEB ARALL’ a ‘COFIA’R ENW’.

Bydd C E L A V I yn rhyddhau eu sengl newydd ar ddydd Gwener, 13fed o Fedi. Gallwch glywed y gân yn cael ei chwarae am y tro gyntaf ar nos Sadwrn, y 7fed o Fedi 2024, ar y rhaglen BBC Introducing in Wales efo Adam Walton ar BBC Radio Wales rhwng 10yh-1yb: https://www.bbc.co.uk/programmes/m0022r6f

Cynhyrchwyd ‘IODINE’ gan y cynhyrchydd a enwebwyd am grammy, Romesh Dodangoda (Bring Me The Horizon, Nova Twins, Motörhead, Holding Absence, Sylosis). Bydd y fideo ategol yn cael ei ryddhau ym mis Hydref, wedi’i gyfarwyddo gan Shaun Hudson (Slipknot, Sleep Token, Limp Bizkit, Lorna Shore). Bydd EP newydd hir disgwyliedig C E L A V I (a gynhyrchwyd gan Romesh Dodangoda, gyda chefnogaeth Help Musicians) yn cael ei ryddhau ym mis Hydref 2024.

Bydd C E L A V I  yn dathlu eu EP newydd ar yr 2il o Dachwedd 2024 gyda gig arbennig yn Nhafarn Skerries, Bangor. Am ragor o fanylion, cliciwch yma.

Yn ogystal, mae BBC Introducing in Wales, BBC 6 Music, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2 wedi cefnogi CELAVI, gyda BBC Radio Cymru yn disgrifio’r band fel “y peth mwyaf swnllyd i ddod o Ogledd Cymru!”

Am ragor o wybodaeth: www.wearecelavi.com