Fe fydd eisteddfod nad yw wedi ei chynnal ers hanner canrif yn codi o’r lludw yn y flwyddyn newydd.
Cynhaliwyd Eisteddfod yn Y Felinheli am y tro diwethaf yn yr 1970au, ond mae criw ifanc o wirfoddolwyr brwdfrydig bellach am ei hail-sefydlu.
Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i baratoi ar gyfer y diwrnod, ac un o’r rhain oedd cynnal ocsiwn i godi arian yn nhafarn Y Fic yn y pentref gyda Tudur Owen a Karen Wynne yn llywio’r gwerthu.
Fe godwyd £3,000 ar y noson, a’r uchafbwynt oedd gwerthu crys rygbi y Llewod wedi ei arwyddo gan cyn-fachwr Cymru, Ken Owens.
Dywedodd Osian Owen, un o’r trefnwyr: “Hoffai’r pwyllgor ddiolch o galon i bawb ddaeth i gefnogi ein ocsiwn fawr a rhoi hwb cystal i goffrau’r Eisteddfod ac i’r rheini a fentrodd rhoi ‘bid’ ar-lein.
Oherwydd y cyfnod hir sydd wedi mynd heibio ers y ddiwethaf – cyn i neb o swyddogion yr Eisteddfod gael eu geni hyd yn oed – mae’r hanes sydd gan y trefnwyr am yr Eisteddfod yn bytiog ac maent yn apelio am unrhyw straeon neu wybodaeth ynglŷn a hanes yr ŵyl.
Dywedodd Osian: “Byddai’n dda gennym pe bai gan rywun yn y pentref (neu’r byd!) wybodaeth fanylach inni am hanes yr Eisteddfod.”
Ond er bod y trefnwyr yn obeithiol am gefnogaeth frwd i’r Wyl, go brin a bydd yn cymharu a’r niferoedd oedd yn bresenol yn 1891, fel y tystia’r adroddiad yma o bapur newydd Y Werin.
“Y mae yn llawenydd gennym hysbysu fod rhagolygon Eisteddfod Gadeiriol y Felinheli yn hynod o addawol. Yr ydym wedi codi pabell i gynnwys tua thair mil o bobl.”
Mae hynny’n fwy na phoblogaeth gyfan y pentref heddiw.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 1 Chwefror 2025.