I ddangos eu cefnogaeth i bobl Palestina mae gwersyllwyr ar y lawnt o flaen Canolfan Pontio yn galw ar Brifysgol Bangor i dorri pob cysylltiad â chwmni Siemens a rhoi’r gorau i fuddsoddi ynddo.
Wythnos ers i’r gwersyll gael ei osod, mae cyfarfod wedi bod gyda swyddogion y Brifysgol ddoe ond yn ôl y gwersyllwyr roedd y Brifysgol wedi bod yn barod i sgwrsio ond chafwyd dim addewid.
“Mae bobol yn mynd a dod, da ni’n collective a da ni’n gweithio efo’n gilydd i gael break, i gysgu a cael swper a gweld teulu. Gweithio efo’n gilydd i wneud yn siŵr fod ’na rhywun yma bob dydd”
Er bod rhai’n anhapus eu bod yno mae’r protestwyr yn ddiolchgar i’r gymuned ym Mangor am eu cefnogaeth ac am alw heibio gyda dŵr, bwyd a hufen haul ar eu cyfer.
Yn ôl un o’r protestwyr “Da ni’n aros yma efo’n gilydd nes bydd y brifysgol yn newid y polisi”
Fe ddaw’r gwrthwynebiad i gwmni Siemens am y bydd yn bennaf gyfrifol am y gwaith o osod cebl trydan tanfor newydd rhwng Ewrop ac Asia. Fe fyddai hwnnw’n cysylltu tiroedd y Palestiniaid sydd wedi eu meddiannu’n anghyfreithlon gan Israel gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Fe gysylltwyd gyda’r Brifysgol am ymateb,
“Ar hyn o bryd, nid oes gan y brifysgol ragor i’w ychwanegu at y datganiad sydd eisoes wedi ei gyhoeddi”. Dyma’r datganiad gan y Brifysgol ar Fai 9fed