Bydd ALED HUGHES y cyflwynydd teledu a radio poblogaidd yn agor siop newydd Ymchwil Canser Cymru ym Mangor ar ddydd Sadwrn 21 Medi.
Mae Aled yn torri’r rhuban yn siop elusen ymchwil canser Cymru yn Uned 13 Canolfan Menai – gyferbyn â Marks and Spencer, am 10.00am.
Siop Bangor yw’r drydedd siop Ymchwil Canser Cymru i agor yng Ngogledd Cymru eleni, gyda’i siop yn Llandudno yn agor ym mis Ebrill ac un Wrecsam ym mis Mai.
Bydd y siop yn cael ei addurno yn logo brandio streipiau lliw Ymchwil Canser Cymru sy’n cael ei ysbrydoli gan geliau dilyniannu DNA a ddefnyddir gan wyddonwyr i ddod o hyd i gelloedd canser.
Bydd yn gwerthu nwyddau o’r safon uchaf gan gynnwys dillad menywod, plant a dynion, ystod o eitemau cartref a bric-a-brac.
Yn ychwagegol, bydd y siop yn darparu cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli i bobl leol.
Dywedodd Lorraine Boyd, Pennaeth Manwerthu Ymchwil Canser Cymru: “Hoffwn ddweud ‘Diolch’ mawr i Aled Hughes am roi o’i amser i ddod i agor ein siop newydd sbon ym Mangor ddydd Sadwrn 21 Medi. Mae’n fraint ei gael i dorri’r rhuban i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn i Aled am ei gefnogaeth.
“Rydyn ni’n teimlo yn gyffrous iawn i ddod i Fangor ac yn edrych ymlaen at weld ein siop liwgar gyda’n brandio stribedog yn dod yn dirnod cyfarwydd a phoblogaidd yng nghanol y ddinas – ein cymuned fach ein hunain o fewn y gymuned lle mae croeso cynnes i bawb bob amser.
“Dewch i’n cefnogi pan fyddwn yn agor ar 21 Medi a’n helpu i ariannu ein gwaith ymchwil sy’n newid bywydau drwy gyfrannu nwyddau o ansawdd nad ydych eu hangen, siopa gyda ni a gwirfoddoli eich amser.”
Wrth groesawu Ymchwil Canser Cymru i Fangor, dywedodd Rob Lloyd – Prif Swyddog Gweithredol Bearmont Capital a pherchennog Canolfan Menai: “Rwy’n falch iawn bod Ymchwil Canser Cymru wedi dewis agor siop yng Nghanolfan Menai, yn enwedig o ystyried eu cysylltiad cryf â Phrifysgol Bangor a’r cyllid sylweddol y maent wedi’i ddarparu ar gyfer ymchwil hanfodol dros y blynyddoedd. Mae’n ffit naturiol iddynt gael presenoldeb ym Mangor, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o’u gwaith anhygoel ac mae’r amseru’n berffaith wrth i ni weld momentwm yn adeiladu gyda’r Ganolfan Llesiant newydd.
“Dyma’r ail uned rydyn ni wedi’i hwyluso ar gyfer Ymchwil Canser Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at eu cefnogi i agor mwy fyth o siopau ledled Cymru. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i Ymchwil Canser Cymru gyda’i siop newydd ac yn edrych ymlaen at y diwrnod agoriadol.”
Mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen Gymreig annibynnol a’r unig un sy’n gwbl ymroddedig i ariannu prosiectau ymchwil canser yng Nghymru.
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae Ymchwil Canser Cymru wedi dyfarnu dros £3.6 miliwn i brosiectau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys:
ThinkCancer!
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn £1.2 miliwn gan Ymchwil Canser Cymru i ariannu’r treial clinigol ThinkCancer! Wedi’i leoli yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru, mae’r treial ThinkCancer! yn gweithio gyda meddygfeydd ar draws y wlad i gyflymu diagnosis canser a sicrhau bod pob claf yn derbyn gofal sylfaenol o’r safon uchaf.
Antigenau Testis Canser
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn dros £500,000 gan Ymchwil Canser Cymru i ymchwilio i antigenau ceilliau canser – proteinau sy’n helpu tiwmorau i oroesi a thyfu. Mae’r tîm yn datblygu profion diagnostig ar gyfer canser y coluddyn a’r ysgyfaint, yn ogystal â dulliau i fanteisio ar y proteinau hyn ar gyfer trin ystod o diwmorau.