Ar fore Sul hamddenol ar ddiwedd Mehefin, aeth criw fach o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru, sydd efo pencadlys ym Mangor, fel rhan o’i cwrs Croeso Cymraeg a drefnwyd gan Menter Iaith Bangor. Cafwyd ein sgubo, gyda Bysiau Dilwyn, drwy bentrefi Cymraeg Arfon i Ddwyfor at y Nant fwyaf godidog, hudol yna. Roedd y mynychwyr wedi syfrdanu gan yr olgyfa o’r cychwyn tra roedden ni’n teithio yn araf lawr y lon, a oedd wedi beirannu yn y 70au, dysgwyd ar ol i ni weld y fidio am hanes y pentref. Roedd y tywydd yn braf ond dim yn boeth a oedd yn helpu a roedd y teuluoedd yn medru rhedeg a archwilio yr adeiladau a’r celfi.
Fe gafon ni sgwrs fer a cwis didddorol gan Nia un o diwtoriaid Nant Gwrtheyrn. Roedd y teuluoedd a finnau yn dysgu mwy am y pentref a finnau ddim yn deall cyn y rhyfel dim ond cychod oedd yn dod a dillad, bwyd a bob peth i’r dyffryn cuddedig hon. Fe sonnwyd dipyn am Dre Ceiri gan Nia … a finnau llawer gwaith ar y ffordd adref.
Roedd hyn yn agoriad llygad i’r nifer oedd yno o’r Gymdeithas, neb wedi bod i’r gorllewin o Gaernarfon, cyn hyn. Roedd y prydferthwch, y chwedlau trist o’r nant, y peiranwaith wrth greu’r lon, yr enwau llefydd cyfagos- Llithfaen, Llanaelhaern ac wrth gwrs Tre’r Ceiri! Roeddynt hefyd yn deall fod ardaloedd gwahanol o Gymru wedi buddsoddi a rhoi arian yn y fenter newydd yn y 70au. Gyda’r enwau ar y tai roedd yn haws i egluro pwy oedd wedi rhoi arian i helpu sefydlu Nant Gwrtheyrn fel y ma’i heddiw. Wrth wneud hyn egluro lle mae’r ardaeloedd yma o gwmpas Cymru a rhoi cysylltiad dyfnach eto o’r gefnogaeth sydd wedi bod i’r Gymraeg a dal i fod.
Ar y bws bach adref, roedd sgwrs ar sut i gael mwy o’r gymdeithas i Nant Gwrtheyrn i ddysgu Cymraeg, felly dyna fydd y gamp nesaf i chwilio am arian i fedru helpu efo hyn fel ein bod ni’n dod yn agosach at y miliwn o siaradwyr erbyn 2050 o bob hil sydd yn byw ym Mangor a Chymru.