Mae Watkin Property Ventures (WPV) wedi ymrwymo £32,500 y flwyddyn i gefnogi Banc Bwyd Coed Mawr ym Mangor, gan ehangu ar eu cefnogaeth i’r gwasanaeth cymunedol hanfodol hwn.
Yng nghanol pwysau costau byw, mae’r banc bwyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am gefnogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ganolfan bellach yn darparu pecynnau bwyd i hyd at 60 o deuluoedd bob wythnos, sy’n cynnwys brecwast a phump pryd bwyd ychwanegol.
Gan adeiladu ar eu partneriaeth bresennol, oedd yn cynnwys cyfraniadau rheolaidd ac ymgyrch lwyddiannus dros Nadolig flwyddyn diwethaf, mae WPV wedi cynyddu ei ymrwymiad ar gyfer 2025. Bydd yr arian newydd hwn yn helpu sicrhau y gall y banc bwyd barhau i ymateb i alw anghenion y gymuned.
Wrth ddiolch am y gefnogaeth, dywedodd Christine King o Fanc Bwyd Coed Mawr: “Mae cyfraniad WPV wedi bod yn allweddol i’n gwaith. Mae’r cyfraniad hael yn ein galluogi ni i wasanaethu’r rhai sydd mewn gwir angen yn ardal Coed Mawr. Mae pob rhodd, mawr neu fach, yn ein helpu ni i gynnal y gwasanaeth hanfodol hwn i’n cymuned.”
Dywedodd Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr Watkin Property Ventures: “Ar ôl cael fy magu ym Mangor, mae cefnogi’r gymuned leol yn bwysig iawn i mi a’r cwmni. Mae ein buddsoddiad yn y banc bwyd yn arwydd o’n ymrwymiad i wneud gwahaniaeth mewn ardal ble mae ein staff yn byw ac yn gweithio. Mae ymroddiad Christine a’i thîm yn anhygoel, ac rydym yn falch o’u helpu i adeiladu cymuned fwy gwydn.”