Ysgol ddeintyddol ym Mangor yw’r datblygiad naturiol nesaf

Byddai’n gam naturiol yn dilyn sefydlu’r Ysgol Feddygol

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
26aa3734-9fac-4949-9c0e

Siân Gwenllian gyda Phrifysgol Bangor yn y cefndir

Ers cael fy ethol yn 2016 rwyf wedi gwneud yr ymgyrch dros ysgol feddygol i’r ddinas yn rhan ganolog o’m gwaith fel Aelod o’r Senedd dros Arfon, a hynny er mwyn hyfforddi meddygon y dyfodol yn y ddinas. Bu’r ymgyrch honno’n llwyddiannus yn y pen draw, ac mae wedi arwain at drafodaeth bellach am sefydlu Ysgol Fferylliaeth ym Mangor.

 

A rŵan, dwi o’r farn y gellir datblygu statws Bangor fel Dinas Dysg trwy ddechrau hyfforddi deintyddion yn lleol.

 

Mi godais i’r mater mewn trafodaeth gyda Lesley Griffiths AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ogledd Cymru ar lawr y Senedd.

 

Dyma ddywedais i’n rhan o’r drafodaeth:

 

“Am y tro cyntaf erioed, mae modd gwneud cais ar gyfer cwrs is-raddedig yn ysgol feddygol newydd Prifysgol Bangor—newyddion ardderchog a fydd yn arwain maes o law at wella gwasanaethau iechyd yn y gogledd.

 

“Mae cynlluniau ar waith i greu ysgol fferylliaeth ym Mangor, sydd hefyd i’w groesawu, a’r datblygiad naturiol nesaf yw hyfforddi deintyddion yn lleol, ac mi fyddai Prifysgol Bangor yn leoliad delfrydol ar gyfer ysgol ddeintyddol newydd i Gymru.

 

“A wnewch chi gefnogi’r ymgyrch hon fel Gweinidog y gogledd, ac a wnewch chi ymuno efo mi i wneud yr achos i’r Gweinidog iechyd—yr achos dros ysgol ddeintyddol ym Mangor—gan adeiladu ar yr hyfforddiant meddygol sydd eisoes ar droed yn y ddinas?”

 

Atebodd Leslie Griffiths AS drwy ddweud y byddai’n “sicr yn cael trafodaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol” ac y byddai’n “awyddus iawn i unrhyw beth sy’n cael ei ystyried ar sail genedlaethol ddod i ogledd Cymru.”