Taro chwech yn Nantporth

Curo eu gêm gyntaf yn eu haen newydd

William Owen
gan William Owen

Roedd gwên fawr ar gefnogwyr Bangor 1876 ar ddiwedd eu gêm gyntaf yn eu cynghrair newydd.  Mi lwyddodd eu tîm i sgorio tair ym mhob hanner o’u gêm yn y JD Cymru North yn erbyn Llanidloes.  6-0 oedd hi wrth iddyn nhw gychwyn ar eu tymor newydd yn Nantporth.

Mi gawson nhw ddigon o gefnogaeth hefyd.  Roedd 626 wedi cyrraedd yno i’w gweld, arwydd fod y clwb a Nantporth yn cyfri i bobl yr ardal.

Ail rownd cwpan Nathaniel ydi hi yn Nantporth y Sadwrn nesa’, 5 Awst.  Gresford Athletic fydd yn eu herbyn.

Digon o goliau yn y Felin hefyd dydd Sadwrn. 5-1 oedd hi yn erbyn Trearddur yn rownd gymhwyso ar gyfer Cwpan Cymru.