gan
William Owen
Roedd gwên fawr ar gefnogwyr Bangor 1876 ar ddiwedd eu gêm gyntaf yn eu cynghrair newydd. Mi lwyddodd eu tîm i sgorio tair ym mhob hanner o’u gêm yn y JD Cymru North yn erbyn Llanidloes. 6-0 oedd hi wrth iddyn nhw gychwyn ar eu tymor newydd yn Nantporth.
Mi gawson nhw ddigon o gefnogaeth hefyd. Roedd 626 wedi cyrraedd yno i’w gweld, arwydd fod y clwb a Nantporth yn cyfri i bobl yr ardal.
Ail rownd cwpan Nathaniel ydi hi yn Nantporth y Sadwrn nesa’, 5 Awst. Gresford Athletic fydd yn eu herbyn.
Digon o goliau yn y Felin hefyd dydd Sadwrn. 5-1 oedd hi yn erbyn Trearddur yn rownd gymhwyso ar gyfer Cwpan Cymru.