Enillodd cyflwynydd gorsaf radio ysbyty lleol Radio Ysbyty Gwynedd, Yvonne Gallienne, y wobr efydd am y ‘Cyflwynwraig y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Radio Cenedlaethol Cymdeithas Darlledu Ysbytai 2023.
Mewn seremoni wobrwyo fawreddog a gynhaliwyd yn Bolton nos Sadwrn (25ain Mawrth 2023), dyfarnwyd y wobr efydd i Yvonne am ei chynhesrwydd, ei chysylltiad â’r cleifion a chyfweliadau diddorol ar ei rhaglen.
Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd wrth ei fodd gyda chyflawniad Yvonne “Rwy’n hynod falch o Yvonne am ennill y wobr efydd ar gyfer ‘Cyflwynwraig y Flwyddyn’. Mae hyn yn dyst i’r blynyddoedd o ymroddiad y mae Yvonne wedi darparu ein gorsaf radio a’r gwaith mae’n ei roi i’w rhaglen wythnosol ar ein gorsaf. Mae pawb yn Radio Ysbyty Gwynedd yn hapus iawn i Yvonne. Llongyfarchiadau mawr, haeddiannol iawn.”
Elusen genedlaethol yw’r Hospital Broadcasting Association sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo Darlledu Ysbytai yn y DU.
Ar hyn o bryd mae dros 170 o orsafoedd radio ysbyty unigol, sy’n cynrychioli 1000au o wirfoddolwyr.
Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod yn darlledu ers 1976 ac yn dathlu 47 mlynedd eleni.
Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.