Radio Ysbyty Gwynedd yn dathlu Dydd Miwsig Cymru!

Dathlu Dydd Miwsig Cymru mewn steil!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Sarah Wynn Griffiths a Jan Davies - Radio Ysbyty Gwynedd

Sarah Wynn Griffiths a Jan Davies – Radio Ysbyty Gwynedd

Dydd Miwsig Cymru 2023

Dydd Miwsig Cymru 2023

Mae Gorsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn Radio Ysbyty Gwynedd yn dathlu Dydd Miwsig Cymru mewn steil heddiw gydag amserlen lawn o raglenni yn llawn miwsig Gymraeg!

Heddiw, 10fed o Chwefror, bydd rhaglenni’r orsaf radio ysbyty lleol yn cychwyn am 7yb gyda rhaglen frecwast arbennig Dydd Miwsig Cymru ac yn gorffen y dydd gyda rhaglen hwyr y nos arbennig am 10yh.

Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd yn falch o gefnogi Dydd Miwsig Cymru “Fel gorsaf, mae’r Gymraeg yn bwysig iawn i ni. Mae’r diwrnod llawn rhaglenni ar ein gorsaf yn dangos ein hymrwymiad i ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Mae gennym amrywiaeth o raglenni wedi’u hamserlennu ar gyfer y diwrnod gyda gwahanol eitemau i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg a hanes Dydd Miwsig Cymru.”

Mae’r amserlen lawn o’r rhaglenni ar Radio Ysbyty Gwynedd ar gyfer Dydd Miwsig Cymru i’w gweld ar www.radioysbytygwynedd.com ac ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Radio Ysbyty Gwynedd.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod yn darlledu ers 1976 ac yn dathlu ei benblwydd yn 47 eleni. Gall cleifion Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau a gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.