Mae Radio Ysbyty Gwynedd, elusen gofrestredig, yn falch o fod yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ar eu noson elusennol arbennig ar yr 19eg o Fai 2023.
Gwrando eto ar y rhaglen: https://bit.ly/42Yf59w
Rhwng 8-9pm, bydd yna raglen Ambiwlans Awyr Cymru gyda’r cyflwynwyr Yvonne Gallienne a Sarah Wynn Griffiths, yn tynnu sylw at waith achub bywyd Ambiwlans Awyr Cymru, gyda chyfweliadau arbennig gydag Alwyn Jones, Codwr Arian Cymunedol yn Ambiwlans Awyr Cymru ac Alun Shorney, Gwirfoddolwr yn Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd cyd-gyflwynydd a thrysorydd Radio Ysbyty Gwynedd, Jan Davies, yn sôn am bwysigrwydd Ambiwlans Awyr Cymru i’w diweddar fam.
Yn ystod y sioe elusennol ysbrydoledig hon, bydd Yvonne a Sarah yn codi ymwybyddiaeth o waith ffantastig Ambiwlans Awyr Cymru a rhannu gwybodaeth am sut gall gwrandawyr cefnogi’r elusen drwy gyfleoedd wirfoddoli a chodi arian.
Gall cleifion Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau a gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd: “Fel elusen ein hunain, rydym mor falch o gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’n anrhydedd gallu codi ymwybyddiaeth o’r elusen hon a’u gwaith achub bywyd yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli a chodi arian. Mae’n mynd i fod yn rhaglen addysgiadol ac ysbrydoledig iawn. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag elusennau; os hoffai unrhyw elusennau eraill gael sylw ar un o’n rhaglenni radio elusennol arbennig, anfonwch e-bost atom radioysbytygwynedd@gmail.com. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi”.
Ychwanegodd Alwyn Jones, Codwr Arian Cymunedol yn Ambiwlans Awyr Cymru “Mae cefnogaeth pobl Cymru yn hollbwysig i lwyddiant parhaus yr elusen. Diolch o galon am eich cefnogaeth barhaus – boed yn gefnogwr presennol neu newydd”.