Prifysgol Bangor a’r Gymuned

Diweddariad ar ddatblygiadau’r Brifysgol o ddiddordeb ac o fudd i’r gymuned leol (Ionawr 2023)

gan Iwan Williams

Mae wedi bod yn gyfnod prysur yn y Brifysgol, gyda’r gwaith a’r astudiaethau yn tynnu at ei therfyn erbyn Nadolig, ac yn ail-dechrau eto yn y Flwyddyn Newydd. Llongyfarchiadau mawr i’r rheini a wnaeth raddio yn ystod Seremonïau Graddio y Brifysgol ynghanol mis Rhagfyr.

Ar ddechrau mis Rhagfyr, cynhaliwyd Te Parti Nadolig i ddathlu 70 mlynedd o wirfoddoli gan myfyrwyr Bangor. Lansiwyd y prosiect Te Parti yn 1952, ac mae wedi helpu i gadw pobl hŷn lleol yn rhan o fwrlwm ein cymunedau a lleihau unigrwydd ac unigedd. Cafwyd Te Parti yn llawn dathlu ar 3ydd Rhagfyr, gan alluogi myfyrwyr a’r gymuned leol i ddod at ei gilydd i gydnabod y berthynas hirsefydlog. Gwelwyd hefyd perfformiadau o ‘A Christmas Carol’ gan y Bridge Theatre Ensemble ym Mhorthaethwy cyn y Nadolig, gyda band pres Undeb y Myfyrwyr a gwasg y Prifysgol yn cyfrannu ac yn cymryd rhan mewn cynhyrchiad llwyddiannus iawn i helpu’r gymuned leol ar adeg heriol i lawer.

Fel rhan o’r brosiect ‘Ar y Lôn’, mae M-SParc, Parc Gwyddoniaeth ac Arloesedd y Brifysgol, wedi ymgartrefu bellach ar Stryd Fawr Bangor. Mae’r misoedd cyntaf wedi bod yn rhai llwyddiannus, gydag ystod o unigolion a grwpiau yn ymweld er mwyn cymryd mantais o’r cyfleusterau a chyngor arbenigol ar gyfer myfyrwyr a busnesau e.e sut i ddechrau a thyfu busnes. Fe fydd rhagor o digwyddiadau yn cael ei chynnal yn yr hwb newydd dros y misoedd nesaf. Yn mis Ionawr, bydd M-SParc hefyd yn hyrwyddo ei ymgyrch ‘Dewch yn ôl’. Mae’r ymgyrch yn helpu i denu pobl yn ôl i’r ardal er mwyn dechrau busnesau neu llenwi swyddi sydd yn cyfrannu at economi a sgiliau gogledd Cymru.

Wrth edrych ymlaen, bydd lansiad Cronfa Cydweithio Gymunedol newydd y Brifysgol yn mis Ionawr yn helpu staff y Brifysgol i sbarduno gweithgareddau ymgysylltu dinesig gyda phartneriaid allanol. Mae rhaglen Pontio ar gyfer y gymuned yn parhau gyda Chaffi Babis (misol), sesiynau yoga, a dawnsio ar gyfer Parkinson’s (wythnosol). Cynhelir Gŵyl Gerdd Bangor yn Pontio ar 17-18 Chwefror. Bydd y Prifysgol hefyd yn cymryd rhan yn nathliadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mangor.

Ar ran staff a myfyrwyr y Brifysgol, Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd ac edrychwn ymlaen i’ch diweddaru ar waith a datblygiadau perthnasol y Brifysgol yn ystod y flwyddyn.

Iwan Williams, Uwch Swyddog y Genhadaeth Ddinesig, Prifysgol Bangor