Mae Radio Ysbyty Gwynedd, elusen gofrestredig yn edrych ‘mlaen at gadw cwmni i’r cleifion yn Ysbyty Gwynedd a’n cymuned ehangach dros y Nadolig.
Bydd yr orsaf radio ysbyty ym Mangor yn darlledu rhaglenni arbennig Nadoligaidd yn ystod y Nadolig gan gynnwys ‘Country Christmas’ efo Iona ac Andy, ‘Meddygfa Nadolig Kev Bach’, ‘Miwsig Nadolig Sarah Wynn’ a ‘Christmas Musical Medicine’ gydag Yvonne Gallienne.
Bydd yna raglenni byw Nadoligaidd hefyd yn cael eu darlledu gan gynnwys ‘Bora Nadolig’ efo Wynne Elvis ac Iwan, a rhaglen arbennig Nadoligaidd efo Mici Plwm.
Yn ogystal â’r holl raglenni, bydd cyngherddau arbennig gan gynnwys Cyngerdd Nadolig Gruff a Steff, Cyngerdd Nadolig Ysbyty Gwynedd a Chyngerdd Nadolig Hosbis Dewi Sant.
Am ragor o wybodaeth am y wledd o raglenni ar gael i gadw cwmni i chi’r Nadolig yma, ewch ar wefan Radio Ysbyty Gwynedd: www.radioysbytygwynedd.com, Ap Radio Ysbyty Gwynedd, neu ar gyfryngau cymdeithasol Radio Ysbyty Gwynedd.
Mae Radio Ysbyty Gwynedd ar gael nawr ar Alexa – gofynnwch i Alexa ‘Play Bangor Hospital Radio’.
Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com, ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd a hefyd ar Alexa.
Cafodd Radio Ysbyty Gwynedd ei enwi’n ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai ac enillodd hefyd y wobr ‘Efydd’ am ‘Orsaf Ddigidol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2022.
Mae’r orsaf yn mynd o nerth i nerth – yn gweithio ar raglenni elusennol arbennig i dynnu sylw at waith gwerthfawr elusennau lleol a chenedlaethol, a nifer o ddarllediadau allanol yn cefnogi digwyddiadau gwych gan gynnwys Gŵyl Gerdd Pier Garth Bangor 2023, Balchder Gogledd Cymru 2023, Relay For Life 2023 a Phenblwydd 75 y GIG.