Mae awdur o Fangor newydd gyhoeddi casgliad o holl farddoniaeth cerrig beddau a chofebau Bangor a Phentir. Mae “Barddoniaeth Beddau Bangor a Phentir” gan Howard Huws yn cynnwys gweithiau amrywiaeth eang o feirdd lleol ac eraill, adnabyddus a dienw, gwych a gwael, yn dyddio o’r 17eg ganrif i’r dydd hwn, yn union fel y maent ar y garreg. Efo’r cerddi ceir swmp mawr o wybodaeth am y rhai a gofiwyd, a’r beirdd eu hunain. Dangosir pa mor boblogaidd oedd gweithiau rhai o’r beirdd hyn, ac ar ba gerrig y maen nhw i’w gweld.
“Mae barddoniaeth”, meddai Howard, “yn ganolog i’n diwylliant ni. Felly mae ein mynwentydd yn drysorfeydd o gerddi coffadwriaethol, a phob claddfa â rhywbeth i ddifyrru’r rhai sy’n ymhyfrydu yng ngherdd dafod. Gwaraidd iawn yw bod ein diwylliant nid yn unig yn ein cyfoethogi yn ystod ein bywydau, ond bod hyd yn oed ein hymadawiad yn achlysur cyfrannu rhagor at y gynhysgaeth lenyddol tra bo carreg i’w gweld a llygaid i’w darllen.”
Ymhlith y beirdd mae’r prifeirdd Ieuan Wyn a’r Parch. John Gwilym Jones; John Henry Williams (“Canwy”, Penrhosgarnedd); Lewis Jones (“Llew Tegid”), a Goronwy Owen. Coffeir bobl amlwg ym Mangor yn eu dydd, fel John Jones y Sêr, Herber Evans, Morien Phillips a J.J. Hughes (“Alfardd”). Golygodd y gyfrol peth wmbredd o waith chwilota cofnodion a chrwydro mynwentydd lleol, er mwyn cael y manylion yn gyfan ac yn gywir.
Cyhoeddwyd 150 copi yn unig. Pris y gyfrol yw £10, ac y mae ar gael yn eich siop lyfrau leol neu gan yr awdur yn cyfarchiad@yahoo.co.uk. Mwynhewch y darllen!