Yr wythnos diwethaf cafodd Siân Gwenllian AS gip y tu ôl i’r llenni o’r rhan newydd o Lwybr Arfordir Cymru sydd o fewn ei hetholaeth yn Arfon.
Er bod Llwybr Arfordir Cymru wedi’i lansio dros ddeng mlynedd yn ôl, mae addasiadau’n cael eu gwneud yn gyson, a’r diweddaraf o’u plith yw’r 3.2km newydd sy’n mynd trwy ran o Stad y Penrhyn ac sy’n ymestyn o Borth Penrhyn ym Mangor i Warchodfa Natur Aberogwen. Mae’r llwybr yn disodli’r llwybr presennol sy’n mynd â cherddwyr oddi wrth yr arfordir a thuag at bentref Tal-y-bont, a bellach bydd cerddwyr yn gallu mwynhau golygfeydd o Draeth Lafan ac arfordir gogledd Cymru.
Mae Siân Gwenllian AS yn cynrychioli’r ardal yn y Senedd, a’r wythnos ddiwethaf ymunodd â Rhys Roberts, Swyddog Llwybr yr Arfordir Gwynedd ar daith dywys o’r llwybr.
Yn ôl Siân:
“Mae’r llwybr newydd yn ychwanegiad gwych at Lwybr Arfordir Cymru, gyda golygfeydd godidog o Ynys Môn a Chonwy yn ogystal ag elfennau o gadwraeth naturiol.
“Wrth gwrs, mae yna gysylltiadau hanesyddol arwyddocaol hefyd. O Draeth Lafan yr anfonwyd corff Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, i’w chladdu ym mynachlog Llan-faes yn 1237. Yn y gornel hon o Arfon y ganwyd Gwenllian hefyd, sef merch Llywelyn ein Llyw Olaf, cyn cael ei herwgipio a’i chymryd i leiandy Sempringham yn Swydd Lincoln, a hithau dim ond yn flwydd oed.
“Hefyd ar lefel hanesyddol, mae’r hyn y mae’r llwybr newydd yn ei gynrychioli yn seicoleg pobol Arfon fel symbol o berchnogaeth leol dros ran o dir Stad y Penrhyn yn amlwg.
“Ymhellach, o’r ffensio i’r waliau ac i’r gwaith o osod y llwybr ei hun, mae’r prosiect wedi bod yn hwb i gyflogaeth leol.
“Fe wnaeth nifer ohonom fagu gwerthfawrogiad o lwybrau cerdded lleol yn ystod Covid, ac er i’r pandemig amharu ar y gwaith diweddaraf hwn i’r Llwybr, mae bellach yn bosibl i bobol leol fwynhau rhan o’u bro nad ydyn nhw erioed wedi’i gweld o’r blaen.
“Rhaid pwysleisio nad yw’r prosiect wedi’i gwblhau’n llawn eto, ac y bydd addasiadau’n cael eu gwneud rhwng rŵan a’r hydref, ond dwi’n falch o ddweud bod y llwybr bellach ar agor i’r cyhoedd.
“Hoffwn ddiolch i Rhys o adran amgylchedd Cyngor Gwynedd am y cyfle i weld y rhan newydd o’r Llwybr.”