Holi dwy o’r ardal sy’n cael eu hurddo i’r Orsedd eleni

Catrin Elis Williams a Ruth Wyn Williams

gan Marian
IMG_8297

Catrin Elis Williams a Ruth Wyn Williams

Mae gan Catrin Elis Williams a Ruth Wyn Williams wreiddiau ym Mhen Llŷn. Mae’r ddwy bellach yn byw ym Mangor, yn gweithio ym maes iechyd a’r ddwy yn cael eu hurddo i’r orsedd eleni.

1) Hoff Eisteddfod? 

Catrin –  Mae’n debyg mae f’Eisteddfod Genedlaethol gyntaf, sef Caerfyrddin 1974, oedd y fwyaf arwyddocaol inni fel teulu. Enillodd brawd fy nain, sef Moses Glyn Jones y gadair yno am ei awdl ‘Y Dewin’.  Gan mai pedwar mis oed oeddwn i, does gen i ddim cof ohoni chwaith! Roedd yr holl deulu i mewn yn y pafiliwn yn gwylio’r seremoni heblaw am Mam druan, oedd allan ar y maes efo fi.  Ddaru hi erioed gwyno, wrth gwrs!

Ruth – Steddfod eleni wrth gwrs! Ond fy ngof cyntaf ydi cael eistedd yn y Gadair a enillodd Alan Llwyd yn 1973 mewn cau yng Nghilan. Wedi ennill y gadair ar goron 1973, roedd noson arbennig yn Ysgol Botwnnog i ddathlu llwyddiant Alan Llwyd a dad gafod y fraint o fynd ar gadair yno yn gefn fan siop Talafon. Ond ar y ffordd fe alwodd adra gyntaf, a finnau’n 6 oed roedd yn gadair anferth!

2) Pwy o’r Orsedd ydych chi’n edrych ymlaen at eu cyfarfod?

Catrin – Rydw i’n edmygydd mawr o’r cyn-archdderwydd Christine James a’i gwaith urddasol fel yr Archdderwydd benywaidd cyntaf, felly dwi’n gobeithio ca’i air efo hi i fynegi hynny.  Bydd Mererid Hopwood yn olynydd teilwng iawn fel yr ail ferch, dwi’n siŵr. Grym y Merched yn cael ei arddangos ar y Maen Llog!  Beth fyddai gan Cynan i’w ddweud, tybed?

Ruth – Alan Llwyd, roedd yn gweithio yn siop fy nhad pan oeddwn i’n ifanc a sgwn i os ydio’n cofio fy nghyfarch gan ddeud ‘Ruth lygadrwth liw grisial’!

3) Beth fydd eich enw gorseddol?

Catrin – Yr enw’r ydw i wedi ei roi gerbron ydi Catrin o Wynedd.  Daeth Gwynedd fel sir yn weithredol pan oeddwn i’n dri diwrnod oed yn 1974, ac rydw i wedi teimlo rhyw ymlyniad tuag at Wynedd ar hyd fy oes.  Mae Mynytho, bro fy mebyd yn Llŷn yng Ngwynedd wrth gwrs, a’r ddinas lle’r ydwi’n cael gweithio a magu fy nheulu erbyn hyn, sef Bangor.  Fedrwn i yn fy myw gael enw gorseddol nad oedd yn cwmpasu’r ddwy ardal. Petai ffiniau’r sir yn newid rhyw ddydd i olygu nad oeddwn i’n byw yng Ngwynedd bellach, mi fyddai’n rhaid imi fudo!

Ruth – Dal at fy enw byddaf, ac fel nyrs mae’n hynod o bwysig cyflwyno eich hun i bob claf, felly fy enw i yw Ruth Wyn.

4)  Pa liw fyddech chi’n ei ddewis ar gyfer gwisg yr orsedd?

Catrin – Rydw i’n hoff iawn o’r cwestiwn yma!  Am y rheswm syml fy mod i’n hoff iawn o liwiau.  Mae gweld dillad hardd mewn lliwiau cryf yn gwneud i ‘nghalon i gyflymu – dwi wir yn eu gwerthfawrogi nhw cymaint â hynny!  Glas, yn enwedig glas llachar dyfn ydi fy hoff liw fel mae’n digwydd, felly’n ffodus iawn i mi, dyna fyddai’n cael ei wisgo’r haf yma.  Mae pinc cryf tywyll hefyd yn uchel ar fy rhestr.  Awgrym i Lys yr Eisteddfod ar gyfer y dyfodol, efallai!

Ruth – Dwi’n lwcus mai glas, lliw’r môr yw fy hoff liw!

5) Unrhyw dro trwstan mewn Eisteddfod? 

Catrin – Mae’r ’sat nav’ yn mynd â ni ar gyfeiliorn wrth drio dod o hyd i’r tŷ’r oeddem yn aros ynddo yn ardal Eisteddfod Tregaron y llynedd yn dal yn fyw yn y cof.  Pan ddaeth arwyddion am Lyn Brianne i’r golwg, a dim enaid byw nac annedd i’w weld o’n cwmpas yn unman, roedd dipyn o fytheirio ar y teclyn bondigrybwyll cyn troi’n ôl am y gorllewin!

Ruth  Mae atgofion melys o Steddfod Môn yn 1983, rhyddid cyntaf, Twrw Tanllyd, hen fachgen mewn Robin Reliant yn rhoi lifft i fwy na 6 ohonom o’r maes pebyll i Langefni! A’r dirgelwch bob noson o bwy fuasai wedi gwneud eu hun yn gartrefol yn ein pabell i 2. Roedd 6 ynddo un noson, dwi’n ar ddeall gan y bechgyn bo hynny dal yn arferiad ym Maes B!

Enwau’r rhai fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd