Yndi, mae Gŵyl y Felinheli’n ei hôl efo 9 diwrnod o weithgareddau wedi eu trefnu.
Ar ddydd Iau 22 Mehefin, bydd pabell fawr yn cael ei chodi ar lannau’r Fenai a bydd yr ŵyl yn cychwyn y diwrnod canlynol.
Bydd Stomp, sesiwn hwylio am ddim, Felinkeller, sesiwn addurno gŵyl, Oedfa a sesiwn ioga i gyd yn digwydd ar benwythnos cyntaf yr ŵyl. Yn ystod yr wythnos bydd Ysgol Felin yn perfformio eu sioe eu hunain, bydd Helfa Drysor ar droed, diwrnod ar gyfer henoed y pentref, noson bingo, dwy sesiwn ddawnsio, cwis, ras 10k, a miwsig byw ar lan y môr. Bydd yr ŵyl yn dod i ben efo Noson Lawen ar nos Wener 30 Mehefin a Diwrnod y Carnifal ei hun ar ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf. Ar y dydd Sadwrn olaf bydd Bwncath a Morgan Elwy yn perfformio, ac am y tro cyntaf bydd pentref bwyd ar y safle.
Rydan ni pobol Felin yn falch iawn o’n cymuned, ac mae’r ŵyl naw diwrnod yn rhan hanfodol o fywyd y pentref erbyn hyn. Llynedd fe gawson ni wythnos arbennig, yr ŵyl gyntaf ar ôl Covid. Eleni fe wnaethon ni groesawu aelodau newydd i bwyllgor yr ŵyl a ddaeth â llawer o syniadau newydd, cyffrous, ac rydan ni’n edrych ymlaen at rannu gwybodaeth am naw diwrnod o ddigwyddiadau dros y pythefnos nesaf.
Bydd cartrefi’r pentra’n derbyn rhaglen yr ŵyl drwy’r post dros y dyddiau nesaf, a bydd copïau ar gael yn ddigidol ac yn siop y pentra. Rydan ni’n annog pobol leol i gadw llygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.