Yn derbyn Graddau er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor heddiw (12/7/23) roedd Steve Backshall MBE, Dr Tina Barsby OBE a Dr Salamatu Jidda-Fadda.
Mae Mr Steve Backshall MBE yn un o gyflwynwyr bywyd gwyllt, naturiaethwyr, awduron ac anturiaethwyr mwyaf adnabyddus y byd teledu. Mae Steve yn Ddarlithydd er Anrhydedd yn y Brifysgol, ac mae’n dysgu myfyrwyr Bangor am gadwraeth, swoleg a’r diwydiant ffilmio bywyd gwyllt. Mae darlithoedd Steve ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd ac mae cynlluniau ar y gweill i wneud ffrydiau byw o leoliadau ffilmio a theithiau maes Steve.
Yn siarad cyn y seremoni, dywedodd Steve:
“Ar ddechrau fy ngyrfa ysgol, roeddwn i’n cael trafferth gyda gwyddoniaeth, roedd mathemateg yn anodd iawn ac roedd ystadegau’n amhosib. Mae cwblhau fy nhaith, wedi i mi ennill gradd yn y gwyddorau ac yn sefyll yma nawr yn ddarlithydd anrhydeddus, gyda doethuriaeth er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, yn swreal, ac yn un o ddiwrnodau mwyaf balch fy mywyd.”
Wrth annerch y myfyrwyr, dywedodd, “Rwy’n credu bod Prifysgol Bangor yn cynnig y cyfle gorau i unrhyw fyfyriwr gwyddorau naturiol, unrhyw le yn y wlad, a chyda’r gorau yn y byd. Mae gennych chi adnoddau naturiol di-ri ar garreg eich drws nad oes gan unrhyw le arall. Yr hyn sy’n gwneud y lle mor arbennig yw’r gallu i astudio yma ac yna mynd allan i brofi’r byd naturiol eich hun yn y ffyrdd gorau posib.”
Gwyddonydd cadwraeth ac addysgwr a aned yn Nigeria yw Dr Salamatu Jidda-Fada. Bu’n gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Cadwraeth ar Sail Tystiolaeth rhwng 2016 a 2018, ac ar hyn o bryd mae’n ymchwilydd gwadd yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Salamatu’n dal i fyw ym Mangor, ac mae hi’n gweithio fel ymgynghorydd cadwraeth yn hyrwyddo Cymru wyrddach ac ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig a’r gymdeithas ehangach yng Nghymru. Oherwydd ei gwaith fel sylfaenydd Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica, mae Salamatu wedi cyfrannu at Grŵp Cynghorol Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) Llywodraeth Cymru ac mae hi’n aelod ac yn Is-gadeirydd Dysgu Oedolion Cymru. Mae hi hefyd yn aelod ymgynghorol o’r RSPB Cymru a hi yw’r person du cyntaf i gael ei hethol yn gynghorydd ar Gyngor Dinas Bangor.
Wrth annerch y myfyrwyr, dywedodd Dr Salamatu Jidda-Fada, “Fy uchelgais oedd ennill PhD ym Mhrifysgol Bangor a mynd yn ôl adref i Nigeria. Wnes i erioed ddychmygu mai Bangor fyddai fy ail gartref 12 mlynedd yn ddiweddarach. Mae gen i deulu, ffrindiau da iawn a chymuned rydw i’n ei charu ac yn teimlo ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag ati.”