10 Chwefror 2023 – Dydd Miwsig Cymru!
Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddigwyddiad blynyddol ym mis Chwefror sy’n ddiwrnod i ddathlu pob math o fiwsig Cymraeg.
Os ‘da chi eisiau ymuno yn y dathliadau heddiw, mae ’na ddigonedd o ffyrdd gallwch chi ddathlu cerddoriaeth Cymraeg!
Radio Ysbyty Gwynedd Mae’r orsaf radio ysbyty’r flwyddyn ym Mangor yn dathlu Dydd Miwsig Cymru gydag amserlen lawn o raglenni i ddathlu’r diwrnod yn dechrau o 7yb tan 11yh. Gewch chi’r amserlen lawn ar www.radioysbytygwynedd.com ac ar gyfryngau cymdeithasol Radio Ysbyty Gwynedd.
C E L Λ V I I ddathlu Dydd Miwsig Cymru, mae’r band metal o Fangor yn rhyddhau eu cân gyntaf iaith Gymraeg ‘DYMΛ FI’ ac yn gyffrous i ddod â cherddoriaeth metal iaith Gymraeg i’r sin! Yn chwifio’r faner dros fetal Cymreig, mae C E L Λ V I wedi derbyn cefnogaeth gan Amazon Music, gan gael eu hychwaneg at restr chwarae golygyddol ‘Best New Bands’ Amazon Music tra hefyd yn derbyn cefnogaeth gan BBC Introducing ar BBC 6 Music a BBC Introducing in Wales. Gallwch wrando ar ‘DYMΛ FI’ yma: https://orcd.co/dymafi
Gigs Mae ‘na lwyth o gigs cyffrous yn digwydd heddiw! Dyma’r holl fanylion: https://amam.cymru/channel-highlight/miwsig/gigsdmc23
Rhestrau Chwarae Beth am wrando ar restrau chwarae arbennig Dydd Miwsig Cymru? https://open.spotify.com/user/dyddmiwsigcymru