Disgwyl torf yn Nantporth

Bangor 1876 yn dechrau’r tymor newydd

William Owen
gan William Owen

Wedi llwyddo i ennill eu gêm gyntaf oddi cartref yn erbyn Treffynnon y Sadwrn diwethaf (22 Gorff) y Sadwrn hwn y mae taith Bangor 1876 yn dechrau o ddifri.

Gêm gwpan oedd hi wythnos yn ôl, rownd gyntaf Cwpan Nathaniel.  Enillodd 1876 3-2.  Y Sadwrn yma (29 Gorff) maen nhw’n chwarae yn y JD Cymru North am y tro cyntaf.  Mae Treffynnon yn y gynghrair hon ac wedi cael hwyl arni y tymor diwethaf.

Serch hynny, Llanidloes sydd yn Nantporth i ddechrau.  Mae disgwyl torf dda i gefnogi Bangor, yn eu hen gartref fel petai.  Ar gae’r Brifysgol yn Treborth maen nhw wedi cynnal eu gemau ers sefydlu CPD Bangor 1876.

Dyma ddechrau’r dyfodol i’r clwb, meddai’r Dr Glynne Roberts, y Cadeirydd.  Mae’r Cymru North y lle agosaf i’r Cymru Premier lle bu Bangor City am flynyddoedd cyn colli eu lle yno.

Y gic gyntaf yn Nantporth am 2.30.