Mae’r orymdaith fflôts yn rhan bwysig o Ŵyl y Felinheli ers degawdau, pan oedd gan Garnifal y pentra deulu brenhinol yn cael eu cario drwy ganol y Felinheli.
Dros y blynyddoedd mi ydan ni wedi cael loris wedi’u hysbrydoli gan Lyfr Mawr y Plant, Hollywood, ac, wrth gwrs, y môr! A fyddai hi ddim yn orymdaith yn Felin heb fflôt am bêl-droed!
A dyma wneud galwad, efo dros wythnos a hanner yn braf i fynd tan ddiwrnod y Carnifal: beth am wneud gorymdaith 2023 y fwya eto!?
Ydach chi’n gymdeithas, yn glwb, yn fusnes, neu jest yn griw o ffrindiau sy’n barod am laff? Y cwbwl sy’n rhaid ichi’i ’neud ydi dewis thema, trefnu gwisgoedd, ac addurno cefn lori neu drelar.
Os ydach chi’n cael trafferth dod o hyd i gerbyd, cysylltwch â’r Ŵyl ac mi wnawn ein gorau i ddod o hyd i un ar eich cyfer.
Os oes gynnoch chi syniad ar gyfer fflôt, cysylltwch â info@gwylfelin.org.