Wel mae Dathliadau Gŵyl Dewi wedi pasio. Rydw’n cael ymlacio am sbel rŵan! Wel gawn ni weld…
Roedd llawer o ddigwyddiadau gwych wedi cynnal, teuluoedd efo M-Sparc # Ar y Lon yn Dylunio Dewi, sef creu crysau a mygiau unigryw a Chymreig. Roedd creadigaethau gwych yn plethu dyluniadau modern, diwylliannau eraill a delweddau Cymreig.
Roedd Dafydd Iwan wedi bod yn Storiel i gael te a chanu bach. Roedd Hunaniaeth wedi cael taith gerdded o Borth Penrhyn i fyny lon las Ogwen, a dros Lon Melin Esgob i fyny Mynydd Bangor ac i lawr i gael paned ym Mwyd Da Bangor a sgwrs Gymraeg efo staff yno. Gwych.
Roedd UMCB wedi cynnal digwyddiad yn Pontio. I fyfyrwyr a thrigolion lleol.
Fe redon ni a nifer o redwyr yn goch ac yn genedlaethol yn y ddwy Parkrun yn Stad y Penrhyn, bob pen i ddydd Ŵyl Dewi.
Cyflwyniad a sgwrs efo Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru am Dewi Sant. Lle’r oedd y plant yn gwybod llawer o’r hanes yn barod i wybod mwy ac ymarfer ambell i air Cymraeg. Yr adborth fwyaf ges oedd bod pobl yno yn barod i ddysgu mwy o Gymraeg ac efo lle priodol i wneud hyn, felly dyna yw’r gamp nesaf.
Fe roedd Pontio yn cynnal llwyth o bethau gwahanol, Pijin, Hedfan am Hwyl, Yoga yn Gymraeg, Coleg Menai yn perfformio a Ffermwyr Ifanc Cymru yn creu gwledd adloniant.
Roedd yr Orymdaith yn llwyddiant mawr efo Batala Bangor unwaith eto yn creu bwrlwm i blant cynradd Bangor. Roedd pob ysgol gynradd yn cael eu cynrychioli ac roedd yr hwyl a sbri ar eu hwynebau yn amlwg. Roedd y Maer Gwynant Roberts a nifer o drigolion lleol wedi ymuno i fynd trwy’r farchnad leol oedd ar y pryd. Mae fideo ar ei ffordd ac am gael ei rannu ar ein safleoedd cymdeithasol pan yn barod.
Ar ôl yr orymdaith roedd canu gwych yn y gadeirlan gyda Naomi Wood yn annerch a chyflwyno, Codi’r To a phlant Glancegin, a Cefin a Rhian Roberts gyda’r un egni a’r drymiau o Batala Bangor.
Yn y nos yn anffodus roedd y gemau Gŵyl Dewi pêl droed wedi ei ganslo, oherwydd timau ddim yn medru cael chwaraewyr. Heblaw hynny fe ddaru, Academi Westend dawnsio a chanu tu allan i Pontio yn fendigedig a nifer o’r plant yn dod o deuluoedd di-gymraeg. Yr arweinydd yn cyfaddef ei bod hi wedi gorfod gwthio ei hun i ddysgu’r caneuon gan fod Cymraeg yn iaith ddiarth iddi hefyd.
Fe orffennodd y dathliadau efo teithiau cerdded llu, Rhys Mwyn yn trafod enwau llefydd a chaeau o gwmpas Castell Penrhyn a gafodd eu mwynhau a’i threfnu gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Taith arall oedd efo Dr Nia Jones o’r brifysgol yn tywys ni o gwmpas dinas Bangor yn egluro pwysigrwydd y Ddinas gyda’r gwrthryfel. Yr hyn oedd yn ddifyr i mi oedd tri Esgob ym Mangor ar yr un pryd ar yr adeg honno. Difyr iawn ac mae cynlluniau i gael y daith yno eto ym Mis Medi.
Diolch i bawb oedd wedi cyd-drefnu a chyd-weithio efo Menter Iaith Bangor i gynnal y digwyddiadau. Mae diolch i’r gwirfoddolwyr am gefnogi cyn ac yn ystod y sesiynau. Diolch i Gyngor Dinas Bangor a Chyngor Cymuned Pentir am roi grant i ariannu nifer o’r digwyddiadau’r flwyddyn yma. Diolch mawr hefyd i Marc Rees Jones o Engan Creadigol am gynllunio delweddau marchnata a chyd-reoli safle cymdeithasol Dathliadau Gŵyl Dewi.
Ymlaen i flwyddyn nesaf rŵan.
Gair Cymraeg yr Wythnos
Rydwn ni yn dewis geiriau Cymraeg yr wythnos rŵan ac wythnos diwethaf jolihoitian oedd y gair. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Bangor tystiolaeth ohoni wedi sgwennu yn dod o Fangor. Yr wythnos hon Sbens neu Sbensh ydau ni wedi dewis, dim gair o Fangor, rydan ni’n trafod y rhain bob dydd Mawrth yn Siop Gwreiddiau Gwyllt yn y sesiwn Paned a Moider rhwng 12-2pm. Croeso i chi ddod draw am sgwrs.