Ddydd Mercher yr 22ain o Fawrth canfuwyd ffatri ganabis arall yn Mangor. Roedd hon yn hen siop elusen Barnardo’s, rhif 298 y Stryd Fawr.
Mae’r lle bron gyferbyn â siop adawedig arall lle canfuwyd ffatri ganabis yn ddiweddar, sef 297 y Stryd Fawr, ar gongl y Stryd Fawr a Ffordd y Ffynnon. Canfuwyd un arall yn un o dai Bloem yn West End.
Mae’n amlwg fod y rhai euog yn targedu adeiladau gweigion, disylw lle medrant dduo’r ffenestri a dwyn trydan a dŵr ar gyfer tyfu’r planhigion. Maent ym Mangor er mwyn diwallu galw sylweddol yma am y cyffur, neu er mwyn ceisio mynd o olwg heddlu’r dinasoedd dros y ffin, lle mae eu prif farchnad. Amcan y ffatrioedd hyn yw tyfu cynifer o blanhigion cywarch ag y bo modd, mewn cyn lleied o amser. Er mwyn gwneud hynny rhaid darparu goleuni parhaus, tymheredd uchel, a digonedd o ddŵr. Nid amaturiaid sydd wrthi, ond giangiau proffesiynol profiadol, cefnog a digydwybod. Yn aml mae’r ffatri yng ngofal unigolion sydd wedi’u gorfodi trwy drais i fyw a bod yno er mwyn cadw golwg ar y cnwd.
Disgwylir rhagor o wybodaeth yn y man.