Mae cyflwynydd radio Capital Cymru, Cerian Griffith, yn dychwelyd i Radio Ysbyty Gwynedd i gyflwyno sioe fisol o’r enw ‘Byd Cerian’.
Rhwng 7-8yh, ar yr ail ddydd Mawrth o bob mis, gan ddechrau dydd Mawrth yma, 9fed o Fai 2023, bydd ‘Byd Cerian’ yn cynnwys gwesteion arbennig, llwyth o gerddoriaeth a’r cyfle i roi’r byd yn ei le.
Dechreuodd Cerian gyflwyno ar Radio Ysbyty Gwynedd yn 2007 cyn ymuno â Capital Cymru fel cyflwynydd yn 2010.
Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd a chyd-gyflwynydd Capital Cymru wrth eu bodd gyda dychweliad Cerian “Rwyf wrth fy modd bod Cerian yn dychwelyd i Radio Ysbyty Gwynedd i gyflwyno rhaglen fisol. Rwyf wedi gweithio gyda Cerian ers blynyddoedd lawer a bydd yn wych ei chael yn ôl gyda ni yn Radio Ysbyty Gwynedd fel rhan o’n tîm. Fel gorsaf rydym yn mynd o nerth i nerth, gan recriwtio enwau mawr i’r orsaf a datblygu cyflwynwyr proffesiynol”.
Ychwanegodd Cerian Griffith “Rwy’n hapus iawn i fod yn ôl yn Radio Ysbyty Gwynedd, diolch yn fawr iawn i Kev am y gwahoddiad. Mae’n anodd credu ei bod hi’n 16 mlynedd ers i mi gyflwyno fy rhaglen gyntaf ar yr orsaf! Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn wasanaeth arbennig, bydd yn braf gallu dychwelyd yn ôl i’r man cychwynnodd y cyfan i mi fel cyflwynydd radio.”
Mae ‘Byd Cerian’ yn cychwyn ar Radio Ysbyty Gwynedd nos Fawrth yma, 9fed o Fai 2023 rhwng 7-8pm.
Gall cleifion Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau a gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.