Mae gorsaf radio ysbyty lleol Radio Ysbyty Gwynedd wedi cydweithio efo Tiwtor y Gymraeg Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar ‘Wythnos y Gymraeg Bwrdd Iechyd’ ar eitem newydd sbon ‘Dysgwch Gymraeg gyda Thiwtor Betsi Cadwaladr.’
Mae’r wythnos hon (17eg-21ain Hydref) wedi cael ei dynodi’n bumed Wythnos y Gymraeg Bwrdd Iechyd. Yn ôl yr arfer, prif bwrpas yr wythnos ydi codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd gofal iechyd dwyieithog.
Mi fydd yr wythnos yn gyfle i ddathlu gwaith gwych mae staff BIPBC yn parhau i’w wneud i ddarparu ystod eang o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Trwy gydol yr wythnos ar Radio Ysbyty Gwynedd, bydd Beth Jones, Tiwtor y Gymraeg Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ymuno ar raglenni Radio Ysbyty Gwynedd i helpu gwrandawyr yn Ysbyty Gwynedd, yn ogystal â’n cymuned ehangach, i ddysgu Cymraeg.
Dywedodd Beth Jones, Tiwtor y Gymraeg Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr “Mi roedd hi’n fraint cael ymweld â gorsaf Radio Ysbyty Gwynedd a chyd-weithio gyda’r orsaf i greu segment newydd sbon, ‘Dysgwch Gymraeg gyda Thiwtor Betsi Cadwaladr.’ Dw i wir yn gobeithio bydd y segment yn ysgogi gwrandawyr yr orsaf i ddysgu geirfa newydd, ac yn bwysicach defnyddio y sgiliau maent wedi dysgu yn y gweithle ac yn y gymuned. Dw i’n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda’r orsaf eto yn y dyfodol, a rhoi’r sylw i’n staff sy’n dysgu Cymraeg. Mae rhaid canmol eu hymdrech i ddysgu’r iaith, ac mae’n galonogol dysgu cymaint o staff brwdfrydig sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i’n gwasanaeth yn y Bwrdd Iechyd”.
Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd wrth ei fodd efo’r bartneriaeth “Mae’r bartneriaeth newydd efo Beth Jones, Tiwtor y Gymraeg Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Radio Ysbyty Gwynedd yn un ffantastig ac yn bwysig iawn i ni fel gorsaf ddwyieithog. Mae’n braf cydweithio gyda Beth ar annog gwrandawyr i ddysgu geirfa newydd yn y Gymraeg a helpu ein cymuned ehangach i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg. Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn mynd o nerth i nerth gan ehangu ein gwasanaeth yn barhaus”.
Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.
Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod yn darlledu ers 1976 gan ddathlu 45 mlynedd llynedd ac enillodd wobr ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai yn ddiweddar.
Mae’r orsaf hefyd wedi derbyn enwebiad yn y categori ‘Gorsaf Ddigidol neu RSL y Flwyddyn 2022’ yng Ngwobrau Radio Cymunedol cenedlaethol. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i’r orsaf gael ei henwebu ar gyfer y wobr genedlaethol hon. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni yn Bedford ar y 19eg o Dachwedd.