Gig UMCB yn denu cynulleidfa

Gig UMCB yn noson lwyddiannus

gan kayley sydenham
IMG-6323
IMG-6547

Gig Mared

IMG-6546

Gig N’Famady Kouyate

Fe fues i nos Sadwrn y 22ain mis yma yn Theatr Bryn Terfel, ym Mhontio, Bangor yn dathlu noson wych o gerddoriaeth byw gan rai o artistiaid adnabyddus Cymru. 

Diolch i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor am drefnu’r Gig arbennig yma, wythnos wedi Diwrnod Shwmae Sumae. Mi oedd yn noson lwyddiannus, ac yn sicr yn boblogaidd ymhlith y myfyrwyr.

Y gyntaf i chwarae oedd y band Dienw, y band dau aelod o ardaloedd Ceunant a Benisarwaun. Yn ail oedd Morgan Elwy a’r Band. Cipiodd Morgan Elwy deitl enillydd Gân i Gymru yn 2021 efo’r gân Bach o Hwne.

Ac yn cloi’r noson oedd un o grwpiau pop mwyaf y Gymraeg, Eden yn canu’r hen glasuron a’r newydd gan gynnwys Rhywbeth yn y Sêr, a ‘Sneb fel ti, wrth orffen â Paid â bod Ofn.

Celt John, sef Llywydd UMCB eleni aeth ati i drefnu’r noson.

Esboniodd “Dewisais i’r artistiaid i gefnogi’r aelodau o UMCB oedd yn y bandiau Dienw a Morgan Elwy a’r Band. Rwyf yn ffan mawr o Eden felly dewisiais nhw fel yr headline, ond hefyd dwi’n ffan o’r holl waith maent wedi gwneud ynghylch iechyd meddwl, felly maent yn role models gwych i’n myfyrwyr.”

“Roedd y noson yn llwyddiant mawr ac edrychaf ymlaen i weld beth fydd Gig UMCB 2023 fel!”

Dyma flas ar ddigwyddiadau a cherddorion sy’n perfformio ym Mhontio yn fuan;

N’Famady Kouyate, Dydd Gwener 25 Tachwedd am 8pm
Cerddor ifanc, angerddol ac yn sicr egnïol o Guinea yw N’Famday Kouyate, sydd hefyd yn aml- offerynnwr dawnus. Ei brif offeryn yw’r Balafon, sef seiloffon pren traddodiadol diwylliant Gorllewin Affrica. Mae’n siŵr o fod yn noson hwyl a byrlymus yn ei gwmni!

Mared Williams a’r band, Dydd Iau 8 Rhagfyr am 8pm
Mae Mared yn llais adnabyddus yng Nghymru, ac yn aelod o ‘Welsh of the West End’ wedi iddi berfformio yn y West End yn Theatr y Sondheim yn y sioe cerdd Les Misérables. Enillodd hefyd albwm y flwyddyn yn 2021 efo’i halbwm Y Drefn. Mae gwerth ichi brynu’ch tocyn yn fuan, fel nad ydach yn colli allan!