gan
Gŵyl y Felinheli
Mae Gŵyl y Felinheli yn gwneud galwad arall am berfformwyr i gymryd rhan yn Stŵr wrth y Dŵr, sioe dalent flynyddol y pentra.
Mae Stŵr wrth y Dŵr yn un o nosweithiau mwyaf hwyliog yr ŵyl, ond er mwyn cael noson werth chweil ar y 25, mae’n rhaid cael acts!
Mi gaiff yr acts fod yn unigolion neu’n grŵpiau, ac yn y gorffennol mae trigolion y pentref wedi dawnsio, canu, trio torri ambell record byd, deud jôcs, chwarae offerynnau, gwneud hud a lledrith, a lot, lot mwy!
Oes gynnoch chi syniad o berfformiad ar gyfer y noson? Cysylltwch â Sarah ar 07816 564520.