Mae gan Radio Ysbyty Gwynedd, yr orsaf radio ysbyty lleol, gyflwynydd enwog newydd yn ymuno â nhw!
Bydd yr actor adnabyddus, DJ a Maer Pwllheli yn cyflwyno rhaglen radio wythnosol ar Radio Ysbyty Gwynedd o’r enw ‘Ddoe yn ôl yng nghwmni Mici Plwm’.
Sgwrsiodd Mici Plwm gyda Terry Phipps ar raglen radio ‘Ni-a-Chi’ gyda Nia Davies heddiw (31 Hydref) 10.30am-12pm am ei raglen radio newydd sbon ac am ymuno â’r orsaf radio ysbyty.
Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd wrth ei fodd gyda’r newyddion “Mae’n newyddion gwych bod Mici Plwm yn ymuno â ni ar Radio Ysbyty Gwynedd fel cyflwynydd. Mae Mici yn eicon Cymreig gyda chymaint o atgofion a cherddoriaeth arbennig i’w rhannu gyda chleifion Ysbyty Gwynedd a’n cymuned ehangach – fe fydd yn ased i’n gorsaf. Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn mynd o nerth i nerth wrth ddatblygu ein gorsaf a denu sêr fel Mici Plwm ac Iona ac Andy i’n gorsaf”.
Mae Mici Plwm yn hynod o gyffrous i ddechrau cyflwyno ei raglen radio newydd sbon ar yr orsaf “Dwi methu aros i ddechrau ar Radio Ysbyty Gwynedd! Mae’r silffoedd o gannoedd o finyls yn fy nhŷ yn mynd i roi’r cyfle i mi unwaith eto archwilio cerddoriaeth arbennig ‘ddoe’ a rhannu gyda’r gwrandawyr. Byddaf yn rhannu cerddoriaeth y ‘dyddiau da’ roeddwn i’n arfer eu chwarae i ddiddanu tyrfaoedd yn ystod fy mlynyddoedd o deithio Cymru a thu hwnt gyda ‘Disgo Teithiol Mici Plwm”.
Bydd rhaglen radio wythnosol ‘Ddoe yn ôl yng nghwmni Mici Plwm’ ar Radio Ysbyty Gwynedd yn cychwyn ar y 10fed o Dachwedd 2022 10.30am-12pm.
Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.
Nid yw Mici Plwm yn ddieithryn i gyflwyno, wedi cyflwyno’r rhaglen deledu ‘Disg a Dawn’ yn ogystal â chyflwyno ar Radio Glamorgan a gorsafoedd radio ysbytai eraill yn Ne Cymru yn y gorffennol.
Chwaraeodd yr actor y cymeriad hoffus ‘Plwmsan’ yn y gyfres gomedi poblogaidd ‘Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan’ ymhlith sawl cyfres deledu Cymraeg eraill.
Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod yn darlledu ers 1976 gan ddathlu 45 mlynedd llynedd ac enillodd wobr ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai yn ddiweddar.
Mae’r orsaf hefyd wedi derbyn enwebiad yn y categori ‘Gorsaf Ddigidol neu RSL y Flwyddyn 2022’ yng Ngwobrau Radio Cymunedol cenedlaethol. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i’r orsaf gael ei henwebu ar gyfer y wobr genedlaethol hon. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni yn Bedford ar y 19eg o Dachwedd.