Rhaglen Radio elusennol heno

Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Ras Gyfnewid am Fywyd Gwynedd ac Ynys Môn

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Yvonne Gallienne - Radio Ysbyty Gwynedd
Sarah Wynn Griffiths - Radio Ysbyty Gwynedd

Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Ras Gyfnewid am Fywyd Gwynedd ac Ynys Môn

Mae Radio Ysbyty Gwynedd, elusen gofrestredig, yn falch o fod yn cefnogi Ras Gyfnewid am Fywyd Gwynedd ac Ynys Môn ar gyfer ei rhaglen elusennol arbennig heno.

Rhwng 8-9pm, bydd yna raglen Ras Gyfnewid am Fywyd Gwynedd ac Ynys Môn efo Yvonne Gallienne a Sarah Wynn Griffiths yn tynnu sylw at waith amhrisiadwy ein helusen leol efo sgyrsiau arbennig efo Catherine a Michael, sefydlwyr y Ras Gyfnewid am Fywyd Gwynedd ac Ynys Môn, Hilary, Cadeirydd Goruchwylio’r elusen a Nadine o Ymchwil Canser DU.

Yn ystod y rhaglen elusennol werthfawr hon, cawn wybod am hanes ein Ras Gyfnewid am Fywyd Gwynedd ac Ynys Môn, sut i gymryd rhan, sut i gefnogi, gwybodaeth am thema eleni, beth i ddisgwyl yn ystod y diwrnod, y seremoni ‘Candle of Hope’ a pha mor bwysig ydi’r digwyddiad yma ar gyfer y frwydr yn erbyn canser.

Gall cleifion wrando ar y rhaglen arbennig Ras Gyfnewid am Fywyd Gwynedd ac Ynys Môn Radio Ysbyty Gwynedd wrth eu gwelyau yn Ysbyty Gwynedd am ddim ar Sianel 1. Gall gwrandawyr y tu allan i’r Ysbyty gwrando ar-lein ar: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd: “Fel elusen ein hunain, rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi Ras Gyfnewid am Fywyd Gwynedd ac Ynys Môn. Rydym yn falch iawn o allu gweithio gyda’r elusen ffantastig leol hon ac amlygu’r gwaith gwych maent yn eu gwneud. Bydd yn noson yn un wybodus ac ysbrydoledig. Os hoffai unrhyw un arall o’n helusennau lleol gael sylw ar un o’n sioeau elusennol arbennig, anfonwch e-bost at radioysbytygwynedd@gmail.com. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych”.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod yn darlledu ers 1976 gan ddathlu ei 45fed flwyddyn llynedd. Yn ddiweddar maent wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau mawreddog Radio Ysbyty Cenedlaethol 2022. Mae’r orsaf wedi’i henwebu ar gyfer gwobr ‘Gorsaf Radio’r Flwyddyn’ ac mae’r cyflwynydd Sarah Wynn Griffiths wedi’i henwebu ar gyfer y wobr ‘Cyflwynwraig Gorau’r Flwyddyn’. Bydd y seremoni wobrwyo yn Bolton hwyrach ymlaen yn y flwyddyn.