Radio Ysbyty Gwynedd ar Radio 1, eto!

Roedd gorsaf radio ysbyty, Radio Ysbyty Gwynedd wrth eu boddau bod ar orsaf radio cenedlaethol, Radio 1 eto’n ddiweddar!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Terry T o Radio Ysbyty Gwynedd efo Adele Roberts a Joe Wicks
Terry T - Radio Ysbyty Gwynedd
Sarah Wynn Griffiths - Radio Ysbyty Gwynedd

Roedd un o gyflwynwyr Radio Ysbyty Gwynedd, Terry T, sy’n cyflwyno rhaglen wythnosol ‘Country, Soul, Rock ‘n Roll’ methu coelio pan gysylltodd Adele Roberts â’r orsaf i ddeud ei bod hi a’i dyweddi Kate yn gwrando ar raglen Terry T ar Radio Ysbyty Gwynedd. Dywedodd Adele ei bod hi’n mwynhau’r rhaglen a gofyn am gais ar y rhaglen!

Roedd Adele Roberts a Joe Wicks, hyfforddwr ffitrwydd, yng Nghymru am wythnos ac wedi cyfarfod y cyflwynydd Terry T yn ystod yr wythnos. Yn dilyn hyn, ar ei rhaglen frecwast ‘Radio 1 Weekend Breakfast’, wnaeth Adele Roberts rhoi shout-out i Terry T a Radio Ysbyty Gwynedd! Gallwch wrando eto ar BBC Sounds, o 15 munud ymlaen: https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m0018f8l 

Yn fis Mawrth 2021, wnaeth Sarah Wynn Griffiths, cyflwynydd ‘Miwsig Sarah’ ar Radio Ysbyty Gwynedd, cael cyd-gyflwyno ‘Newsbeat’ ar BBC Radio 1 efo Roisin Hastie. 

Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed yn ein gorsaf efo hyfforddiant a datblygu ein hamserlen rhaglenni. Rydyn ni wedi denu saith cyflwynydd newydd yn ystod y misoedd diwethaf efo mwy o gyflwynwyr yn mynd trwy hyfforddiant ar hyn o bryd. Mae cael bod ar orsaf enfawr fel Radio 1 a chael Adele Roberts yn tiwnio mewn i Radio Ysbyty Gwynedd yn ffantastig ac yn dyst i broffesiynoldeb ein cyflwynwyr ac ein gorsaf. Diolch o galon i Adele am ei holl gefnogaeth, person arbennig iawn”. 

Mae’r orsaf radio ysbyty sydd wedi ei leoli yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi eu henwebu am ddwy wobr fawreddog yng Ngwobrau Radio Ysbyty Cenedlaethol eleni. 

Gall cleifion Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau a gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.