Mae gorsaf radio ysbyty lleol Radio Ysbyty Gwynedd wedi’i henwi’n ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ gan y Gymdeithas Darlledu Ysbyty (Hospital Broadcasting Association) ar ôl ennill aur yn seremoni Gwobrau Radio Ysbyty Cenedlaethol.
Mewn seremoni ar-lein nos Lun, dyfarnodd beirniaid Gwobrau Radio Ysbyty Cenedlaethol y wobr fawreddog i Radio Ysbyty Gwynedd am eu gorsaf broffesiynol a’u rhaglenni o safon uchel, dywedodd y beirniaid fod “yr orsaf hon (Radio Ysbyty Gwynedd) yn dangos cynhesrwydd, positifrwydd ac yn cynnwys lleisiau gwych ar yr awyr. Mae’r holl amrywiaeth o raglenni y byddech chi’n eu disgwyl yn y cais hwn ac mae ansawdd y cynnwys llafar o’r radd flaenaf. Yr hyn a’n trawodd fwyaf oedd naws broffesiynol gorsaf nad oeddem erioed wedi’i chlywed o’r blaen – roedd y cais yn hyfryd i’w wrando arno.”
Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd wrth ei fodd gyda chyflawniad yr orsaf “Rwy’n hynod falch o bawb yn Radio Ysbyty Gwynedd. Mae’r wobr hon yn dyst i’r tîm gwych, ymroddedig a phroffesiynol o wirfoddolwyr sydd gennym yn ein gorsaf. Mae pob un o’n cyflwynwyr yn gweithio’n galed i baratoi eu rhaglenni ar gyfer ein cleifion a’n cymuned ehangach ac rydym yn datblygu ein rhaglenni’n barhaus ac yn recriwtio gwirfoddolwyr newydd i’n gorsaf. Mae’n gymaint o fraint i ni gael ein cydnabod yn genedlaethol fel gorsaf y flwyddyn. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu holl gefnogaeth”.
Elusen genedlaethol yw’r Hospital Broadcasting Association sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo Darlledu Ysbytai yn y DU.
Ar hyn o bryd mae dros 170 o orsafoedd radio ysbyty unigol, sy’n cynrychioli 1000au o wirfoddolwyr.
Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod darlledu ers 1976 gan ddathlu 45 mlynedd llynedd.
Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.