Mae si bod siop elusennol “Oxfam” yn Stryd Fawr Bangor i gau yn y flwyddyn newydd.
“Os gwir hyn, mae’n newyddion drwg” meddai Howard Huws, sy’n arfer galw heibio i’r siop yn o aml.
“Dwi’n dod yma ar gyfer y llyfrau ail law yn bennaf. Mae yma stoc dda: bron na ddywedwn mai dyma’r peth agosaf at siop lyfrau ym Mangor, ac o gofio bod Bangor yn ddinas prifysgol, mae hynny’n ddweud mawr ynddo’i hun.”
“Byddai hyn yn dilyn cau siop elusennol Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn ddiweddar. Tlodi sydd wrth wraidd hyn, wrth gwrs: onid oes gan bobl bres i’w wario, bydd siopau’n cau, a’r unig ffordd i atal hynny yw drwy ailfywiogi’r economi leol gyfan. Mae bod busnesau masnachol yn gadael y Stryd Fawr yn arwydd digon drwg, ond pan fo siopau elusennol yn gadael hefyd, mae rhywun yn meddwl faint o ddyfodol sydd i ganol y ddinas fel man y mae pobl yn cyrchu ato.”
“Beth yw dyfodol y Stryd Fawr? Troi’r siopau yn fflatiau, a’i gwneud yn ardal breswyl?”