Newid ar gyfer etholiadau Mai 5
Bydd sawl enw newydd yn dod i’r golwg yn y dyddiau nesaf, ac nid enwau cynghorwyr yn unig. Bydd llai o wardiau Cyngor Sir ym Mangor a newid yn yr enwau, ac mae’r Felinheli yn ymuno â Bethel.
Canol Bangor yw enw newydd ar y ward oedd yn arfer cynnwys Garth, Menai a Hendre. Dau gynghorydd sir fydd yn cael eu hethol yma.
Dwyrain Bangor fydd y ward sy’n llyncu Hirael a Marchog (Maesgeirchen). Yma hefyd y bydd dau gynghorydd yn cael eu dewis.
Mae Ward Dewi (Coed Mawr) a Glyder (Maes Tryfan ac Eithinog) yn aros yr un fath. Un cynghorydd ymhob lle sydd ar eu cyfer.
Y Faenol yw enw newydd ward Pentir sy’n cynnwys Penrhosgarnedd. Un aelod fydd yma.
Bethel a’r Felinheli fydd enw newydd y ward oedd yn arfer bod yn ddwy ward ar wahan. Dau aelod fydd yn cael eu hethol.
Er mwyn cymhlethu bywyd mae’r wardiau ar gyfer Cyngor Dinas Bangor yn aros yr un fath. Mae etholiadau ar gyfer y rhain hefyd. Y wardiau a nifer y cynghorwyr i’w hethol yw:
DEWI (3) GARTH (1) GLYDER (3) HENDRE (3) HIRAEL (3) MARCHOG (4) MENAI (3).
Mae sawl un o gynghorwyr Bangor yn gadael y tro hwn, gan gynnwys y Maer, Owen Hurcum. Cyhoeddodd ei fod am fynd i fyw ar gwch yn Lloegr am gyfnod. Mae prinder ymgeiswyr mewn sawl ward.
Mae Cyngor Cymuned y Felinheli yn aros yr un fath hefyd gyda 13 o aelodau i’w hethol.