Mae’r Aelod lleol o’r Senedd wedi ymuno â nyrsys ar y llinell biced y tu allan i Ysbyty Gwynedd wrth iddyn nhw alw am dâl ac amodau gwaith gwell.
Eleni, mae nyrsys o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi mynd ar streic am y tro cyntaf oherwydd tâl isel a phryderon ynghylch amodau gwaith. Yr wythnos hon, mae cynrychiolydd Bangor yn Senedd Cymru wedi ymuno â streicwyr ar y llinell biced yn Ysbyty Gwynedd.
Yn ôl Siân Gwenllian:
“Bob dydd, mae ’na straeon ofnadwy am gleifion yn aros oriau am ambiwlansys a rhestrau aros maith am driniaethau, ac mae’n glir fod y sefyllfa bresennol yn gwbl anghynaladwy.
“Fe wnaethon ni ddathlu gweithwyr iechyd fel arwyr yn ystod y pandemig, eu cymeradwyo ar stepan ein drws a gosod enfys yn ein ffenestri. Ond rŵan mae’n amser dangos parch go iawn.
“Heb fynd i’r afael go iawn â chyflogau gwael ac amodau gwaith sy’n gwaethygu, mae’r argyfwng staffio yn mynd i fynd o ddrwg i waeth.
“Cefais sgyrsiau sobreiddiol â nyrsys ar y llinell biced yn fy etholaeth yr wythnos hon.
“Dwi’n gwybod na fasan nhw’n streicio oni bai fod rhaid iddyn nhw.
“Mae ein gwasanaeth iechyd, yn ogystal â’n gweithwyr iechyd ar eu gliniau.
“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth wrando ar alwadau am gyflog teg ac amodau gwaith diogel, a gweithredu ar y galwadau hynny.”