Pan ddaeth Covid â’i gyfnodau clo a chyfyngiadau ar ba mor bell roedd hawl gynnon ni deithio o’n milltir sgwâr, mi gawson ni ein gorfodi i feddwl yn lleol, ac i ddod o hyd i’r hyn oedd ei angen arnom o fewn ein bro.
Ac yndi, mae’r cyfnod hwnnw ar ben. Ond mae’r egwyddor honno o feddwl a gweithredu wrth ein traed yn aros am byth, a hynny oherwydd her wahanol iawn i Covid. Yr argyfwng hinsawdd.
“Newid ein harferion prynu”
Mi fydd pwysau cynyddol ar unigolion i leihau eu hôl troed carbon, ac er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid inni newid ein ffordd o fyw. Un ffordd syml o wneud hynny ydi newid ein harferion prynu.
Mewn cyfnod o gyfyngiadau teithio, mae’n anodd peidio teimlo fod pobol wedi adennill rhyw werthfawrogiad o gynnyrch lleol. Mi oedd ’na fusnesau lleol, newydd yn codi fel madarch ar hyd a lled ein bröydd wrth i bobol droi pethau a fu gynt yn ddiddordebau yn fentrau bach, llwyddiannus.
“Profiad llawer gwell”
Ac yntydi cefnogi’r mentrau hynny yn brofiad llawer gwell na llenwi troli hyd yr ymylon mewn archfarchnad gorfforaethol, ddi-wyneb? Mae rhywun yn gwybod yn union o le mae eu cynnyrch nhw wedi dod, a pha mor bell mae’r cynnyrch hwnnw wedi teithio. Mae’r gwasanaeth yn bersonol, ac mae’ch arian yn cael ei werthfawrogi cymaint yn fwy. Mae ’na deimlad o foddhad o fod yn cefnogi swyddi a theuluoedd lleol, mewn cyfnod sydd mor heriol i nifer. Ac mae cefnogi mentergarwch pobol leol yn arbennig o braf pan mae sôn am gynifer o bobol ifanc yn methu â fforddio byw’n lleol.
Cofiwch, mae’r ystadegau’n adrodd hanes ddifyr. Am bob £1 sy’n cael ei wario’n lleol, mae 63c yn aros yn yr economi leol. Yn ein pentrefi a’n trefi.
Ac mae gan bobol y Felinheli, ac ardal Arfon yn ehangach gyfle gwych i wario’n lleol heno.
“Llafur cariad nifer o gynhyrchwyr lleol o dan un to”
Mae Ffair Cynnyrch Lleol yn rhan o raglen Gŵyl y Felinheli ers rhai blynyddoedd bellach. Mae’n gyfle gwych i gael blas ar lafur cariad nifer o gynhyrchwyr lleol o dan un to.
Felly beth amdani, bobol Arfon? Cefnogwch eich economi leol, cadwch swyddi a phres yn lleol, gwnewch eich rhan wrth leihau eich ôl-troed carbon, a chyfranwch at y busnesau bach hyn sy’n gwneud ein hardal ni mor unigryw.
Mae’r ffair yn dechrau am 17:00 heno, a bydd Marcî’r Ŵyl yn cynnig lloches rhag unrhyw dywydd garw.