Giatiau llifogydd Felin yn cael defnydd

Ond storm Eunice ddim mor ddrwg â’r disgwyl

gan Gwilym John

Gan fod llanw mawr yn cyd-ddigwydd â storm Eunice dydd Gwener, Chwefror 18ed, roedd angen cau y giatiau llifogydd ar Lan y Môr yn y Felinheli. Gwifoddolwyr lleol sydd yn gyfrifol am y giatiau bach, ond oherwydd fod angen cau y lôn, Cyngor Gwynedd fydd yn cau y giat fawr.

Fel ddigwyddodd pethau, nid oedd ymweliad Eunice mor ffyrnig â’r disgwyl, a nid oedd angen y giatiau. Ond rhaid oedd chwarae yn saff, felly diolch i bawb wnaeth helpu.

Agorwyd y giat fawr ar ol y llanw mawr ddydd Gwener, ac agorwyd y rhai eraill brynhawn Sul