gan
Gŵyl y Felinheli
Mae sioe dalent flynyddol y Felinheli yn ôl ar ôl seibiant, ac mae Pwyllgor Gŵyl y Felin yn chwilio am ddoniau yn y pentref i ddiddanu’r trigolion.
Yn y gorffennol, bu nosweithiau Stŵr wrth y Dŵr ymhlith nosweithiau mwyaf cofiadwy’r ŵyl, a bydd Gŵyl y Felin yn rhannu rhai o’r atgofion hynny dros yr wythnosau nesaf.
Ond am y tro, mae’r Ŵyl yn gwneud galwad agored am berfformwyr ar gyfer sioe dalent 2022.
Ydach chi’n canu neu’n dawnsio? Ym medru gwneud keepie upies neu’n chwarae offeryn?
Cysylltwch â Phwyllgor yr Ŵyl i gofrestru:
☎ 07816564520
✉ info@gwylfelin.org