CPD Y Felinheli yn denu torfeydd enfawr

Felin yn chwarae yn dda yn y gemau lleol yn erbyn Nantlle Fêl a Porthmadog

gan Gwilym John

Felin 3 Nantlle Fêl 0

Felin 0 Yr Wyddgrug 4

Felin 0 Porthmadog 1

O flaen torf o ryw 200, ar nos Fercher braf o wanwyn, llwyddodd Felin i guro Nantlle Vale 3-0 mewn gêm llawn angerdd. Roedd hi yn “darbi” lleol go iawn am yr hanner awr cyntaf, ond ar ol i Caio (32 munud) a Carwyn (38 munud) roi Felin 2-0 ar y blaen erbyn hanner amser, edrychai y tim cartref yn gymharol gyffyrddus. A pan sgoriodd Dylan gyda pheniad ar ol 64 munud, roedd y gêm wedi’i hennill i bob pwrpas. Buddugoliaeth bwysig i Felin, talu yn ol i’r cymdogion agos ar ol colli 0-1 ym Mhenygroes ddechrau’r tymor.

Y tim oedd ar y brig, a darpar bencampwyr y gynghrair, Mold Alex oedd yn Seilo dridiau yn ddiweddarach. Rhain oedd y tim gorau i ymweld a Felin ers blynyddoedd yn ol y selogion, a roedd eu buddugoliawth o 4-0 y golled gwaethaf i Felin brofi yn Seilo ers cyn cof. Roedd ynhell dros 100 o dorf yn gwylio.

Ac yng ngêm olaf Felin yn Seilo y tymor yma, Porthmadog oedd yr ymwelwyr ar y nos Wener canlynol. Roedd Port wir angen ennill er mwyn cael yr ail safle yn y tabl, gyda’r wobr o gêm “playoff” er mwyn cael siawns o ennill ddyrchafiad. O flaen torf fwya’r gynghrair eleni, tua 400, Port sgoriodd gyntaf, Rhys Alun Williams ar ol 20 munud, ac roedd hon yn ddigon i ennill y gêm iddynt. Ond gyda’u golgeidwad Paul Pritchard yn gwneud arbediad ar ol arbediad, roedd cefnogwyr Port yn falch o glywed y chwiban terfynnol. Daeth Rhys “Archie” Parry, Iwan Bonc, a Carwyn Dafydd yn agor iawn i sgorio. Rhaid cyfeirio at un ymdrech gan yr ymwelwyr lle roedd llawer yn y dorf yn meddwl fod y bel wedi croesi’r llinell. Nid oes VAR yng Nghyngrair Ardal Fit-Lock, ddim eto beth bynnag!

Bydd Felin yn gorffen y tymor yn yr 11eg safle o leiaf, gyda siawns o fynd uwchben Rhostyllen pe baent yn llwyddo cael  gêm gyfartal yn Llanuwchllyn ddydd Sadwrn nesaf. Mae ail hanner y tymor wedi bod yn un boddhaol iawn i glwb pentref Y Felinheli, ac edrychwn ymlaen am ymgyrch llwyddiannus y tymor nesaf.