Felin yn ennill eto

Curo Llai 4-3 mewn epic o gêm

gan Gwilym John

Cynghrair Ardal “Fit Lock” Gogledd Orllewin

CPD Y Felinheli 4  Llai 3

Mawrth 12ed, 2022

Ar ol cipio pwynt mewn gêm gyfartal 2-2 ym Mrymbo wythnos ddiwethaf, mewn gêm ddyla fod Felin wedi ennill, roedd ymweliad Llai yn gaddo bod yn tipyn anoddach gêm. Mae nhw yn dîm corfforol iawn ac efallai efo un neu ddau o chwaraewyr ddigon annymunol, ddywedwn ni…Buasai pawb, bron, yn derbyn gêm gyfartal yn erbyn y tim oedd yn bumed yn y tabl.

Ond o flen torf iach iawn, roedd hogia Felin amdani. Cafwyd gêm wych, hysbysiad da iawn i’r gynghrair. Felin aeth ar y blaen gyda Gruff yn plannu’r bel yn y rhwyd o’r smotyn ar ol i Rhys Archie Parry gael ei lorio gan y golgeidwad. Ond daeth yr ymwelwyr yn ol yn gryf, a daeth yr hanner cyntaf i ben gyda Llai 2-1 ar y blaen.

Mae’n raid fod y sgwrs hanner amser wedi bod yn un effeithiol, gan i Felin chwarae peldroed bendigedig yn yr ail hanner, yn rhoi pwysau aruthrol ar Llai, oedd i’w gweld yn gwegian. Ac ar ol cwpwl o gyfleon da, Carwyn Dafydd daeth a Felin yn gyfartal, a munudau wedyn eu rhoi ar y blaen gyda shot o ongl fain iawn nad oedd y golgeidwad wedu ddisgwyl. Felin ar y blaen 3-2 felly. Ond yn dilyn camgymeriad prin iawn yn amddiffyn Felin, rhoddwyd cic o’r smotyn i’r ymwelwyr, ac aeth hi yn 3-3.

Rhoddodd hyn hwb i Llai, ond dal ati wnaeth Felin, ac yn yr eiladau olaf, yn dilyn scrambl yn bocs yr ymwelwyr lle orffennodd Gruff yn griddfan ar y llawr, daeth tacl wael ar Iwan Bonc, a toedd gan y reff ddim problem o gwbl rhoi penalti arall i Felin. Toedd Gruff, sydd yn arfer cymeryd y ciciau, mewn unrhyw stad i’w chymeryd, felly dyma Caio, yn ddewr iawn, yn cymeryd y cyfrifoldeb. A daeth bloedd mwya’r dydd pan orffennodd y bel yn y rhwyd. Buddugoliaeth 4-3 haeddiannol iawn i Felin, a tri phwynt fydd yn help garw i gadw y clwb yn y gynghrair y tymor nesaf. Mae Felin yn parhau yn unfed a’r ddeg yn y tabl, ond mae’r bwlch oddi tannodd yn ymestyn.

Hon oedd trydydd gêm tymor yma yn erbyn Llai, a choeliwch neu beidio, mae 23 o goliau wedi cael eu sgorio yn y dair gêm!

Dinbych, sydd yn drydydd yn y tabl, fydd yn Seilo Sadwrn nesaf, y gic gyntaf am 2:30 pm. Dewch i gefnogi.