Cynghrair Ardal “Fitlock” Gogledd Orllewin
Felin 1 Nantlle Vale 2
Nos Fercher, Awst 10ed
Noson gynnes braf o haf a local darbi fawr ar gae Seilo, gyda hogia Fêl yn awyddus iawn i gael gwell canlyniad na’r tro ddiwethaf oeddan nhw acw, yn cael eu malu 3-0. Ac edrychai hi felly hefyd gyda’r ymwelwyr yn edrych yn gynt i’r bel ac yn fwy penderfynnol na hogia Felin yn yr hanner cyntaf.
Roedd Felin yn cael trafferth torri lawr amddiffyn Vale ac yn methu creu fawr ddim o gyfleoedd. Nantlle Vale oedd yn edrych berycla. Ar ol 13 munud yn dilyn egwyl go hir yn y gem yn dilyn anaf i un o ymosodwyr Fêl, efallai fod amddiffyn Felin heb heb roi “switch on” yn iawn, a sgoriodd yr ymwelwyr. Gôl reit fler o safbwynt Felin i ddweud y gwir.
Ddigon tebyg oedd gweddill yr hanner, gyda Felin yn stryglo i greu fawr ddim, ac amddiffyn Vale yn gadarn. Bron i Ryan Cain sgorio ond goli Vale yn gwneud sêf dda. Ond yn funud olaf yr hanner, cafodd shot Ashley Owen ei gwyro heibio i Guto yn y gôl i’w gwneud hi yn 2-0, ac roedd pethau yn edrych yn ddu ar Felin.
Roedd rhaid ceisio newid pethau felly daeth Osian Pritchard ymlaen ddechrau’r ail hanner. Roedd Vale i weld yn fodlon trio rhedeg y cloc i lawr o ddechrau’r ail hanner, yn gwastraffu amser ac yn eistedd yn ol heb fentro ryw lawer. Ac fel aeth y gêm yn ei blaen, edrychodd Felin yn fwy bygythiol. Ac ar ol 70 munud, yn dilyn symudiad disglair, daeth y bel i Archie a llwyddodd yn ddewr iawn i roi y bel yn y rhwyd. Gôl dda ac un oedd yn rhoi gobaith i Felin gael rhywbeth allan o’r gêm yma.
Ond er mai Felin oedd erbyn hyn yn rheoli’r gêm, nid oedd gôl am ddod, a cholli’r local darbi 1-2 yn y diwedd. Daw eto haul ar fryn.
Felin: Guto Hughes; Ifan Dafydd, Ryan Cain, Dylan Jones, Jack Cain (Adam Hughes 90); Aled Griffith (Connor Jaffeth 68), Llion Jones, Gruff John, Iwan Edwards (Owain Emyr Roberts 90); Gavin Lloyd-Jones (Osian Pritchard 46), Rhys Parry
Fêl: O Roberts, A Williams, M Davies, S Jones, M Roberts (L Griffith24, D Yates 73), Alwyn Roberts, Ashley Owen, J Thomas, G Gwenallt, A Williams, S Parry (Jamie Jones 11)
Roedd crowd o tua 150